Terfysg Beca (Cymraeg/Welsh)

Lesson at a glance

Suitable for: Key stage 3, Key stage 4, Key stage 5

Time period: Empire and Industry 1750-1850

Curriculum topics: Industrial Revolution, Political and social reform, Revolution and Rebellion

Suggested inquiry questions: Beth oedd achosion Terfysgoedd Beca?

Potential activities: Trafodwch y rhesymau dros ac yn erbyn gwrthdystiadau Beca.

Beth a ddigwyddodd yn ystod

Digwyddodd Terfysg Beca yn ardaloedd gwledig gorllewin Cymru, gan gynnwys Sir Benfro, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin, rhwng 1839 a 1843. Roeddent yn gyfres o brotestiadau gan ffermwyr tenant yn erbyn talu tollau (ffioedd) a godwyd i ddefnyddio’r ffyrdd. Ymddiriedolaethau Tollbyrth, neu grwpiau o ddynion busnes, oedd yn berchen ar y rhan fwyaf o’r prif ffyrdd. Roedd y dynion hyn yn gosod y tollau ac yn penderfynu faint o dollbyrth (tyrpegau) allai gael eu hadeiladu.

Yn ystod y terfysgoedd, fe wnaeth dynion wedi’u gwisgo fel menywod ymosod ar y tollbyrth. Galwent eu hunain yn ‘Rebecca a’i merched’. Mae’n fwyaf tebygol bod hyn ar ôl darn yn y Beibl lle mae Rebecca yn sôn am yr angen i ‘etifeddu porth eu gelynion’ (Genesis XXIV, adnod 60). Roedd pobl y cyfnod hwnnw yn adnabod eu Beibl yn dda.

Roedd tollau’n draul fawr ar ffermwyr bach, a oedd yn defnyddio’r ffyrdd i fynd â’u cnydau a’u hanifeiliaid i’r farchnad, a hefyd i gasglu calch (mwyn sialcog). Defnyddiwyd calch i wella ansawdd y pridd fel y gallai ffermwyr dyfu cnydau gwell. Gallai’r tollau gostio cymaint â phum swllt (25c) i symud cert llawn calch wyth milltir o’r lan. Nid oedd pobl gorllewin Cymru am dalu i ddefnyddio’u ffyrdd. Defnyddiwch y wers hon i ddysgu am Derfysg Beca gan ddefnyddio dogfennau gwreiddiol am natur y mudiad, profiad rhai o’r bobl a gymerodd ran ac ymateb yr awdurdodau.


Tasks

1. Edrychwch ar Ffynhonnell 1. Cyfeiriwyd y llythyr hwn at bobl oedd yn byw yn Sanclêr ac eraill yn Sir Gaerfyrddin ym 1842.

  • Pam mae awdur y llythyr yn defnyddio’r llofnod ‘Becca a’r plant’ (‘Becca & children’) yn hytrach na rhoi ei enw ei hun?
  • Pam mae’r cwnstabliaid arbennig (special constables – ‘those which has sworn to be connstable”) yn cael rhybudd i dalu sylw i’r llythyr hwn?
  • Pam mae’r llythyr yn gwrthwynebu ‘Bowlin and company’?
  • Beth yw agwedd yr awdur at yr heddlu?
  • Sut ydyn ni’n gwybod nad oedd y person a ysgrifennodd y llythyr hwn wedi cael addysg dda?
  • Sut mae iaith y llythyr yn gwneud i’r llythyr ymddangos yn fygythiol?

2. Edrychwch ar Ffynhonnell 2. Mae’r casglwr tollau yn disgrifio ymosodiad ar Dollborth Trefechan ym mis Awst 1843.

  • Pryd ddigwyddodd yr ymosodiad ar y tollborth?
  • Yn eich barn chi, ydych chi’n credu bod hwn yn debygol o fod yn ddarn dibynadwy o dystiolaeth? Rhowch eich rhesymau
  • Pam roedd cefnogwyr Rebecca eisiau llyfrau cyfrifon y casglwr tollau?
  • Pa bethau sy’n awgrymu bod yr ymosodiad wedi cael ei gynllunio’n dda?
  • Sut byddai William Rees wedi teimlo yn ystod yr ymosodiad hwn, yn eich barn chi?

3. Edrychwch ar Ffynhonnell 3. Mae Edward Crompton Lloyd Hall, uchel siryf Ceredigion, yn cynnig cyngor i Rebecca a’i merched ym 1843.

  • Pam mae Hall yn dweud wrth Rebecca a’i merched am beidio â chyfarfod nos Fercher?
  • Sut mae Hall yn cynghori’r Cymry i weithredu er mwyn cael pobl i wrando arnynt?
  • Sut mae’r daflen yn ceisio perswadio pobl i wrando? (Rhowch sylwadau ar: faint y testun; ansoddeiriau ac enwau cadarn; arddull ysgrifennu Hall.)
  • Pa wybodaeth mae’r ffynhonnell hon yn ei rhoi am agwedd yr awdurdodau at Rebecca a’i merched?
  • Pam argraffodd Hall y daflen hon yn Gymraeg a Saesneg, yn eich barn chi?

4. Edrychwch ar Ffynhonnell 4. Roedd George H Ellis wedi cymryd rhan mewn casglu tystiolaeth ar ddechrau ymchwiliad i gyflwr yr Ymddiriedolaethau Tollbyrth yng Nghymru ac achosion yr helyntion.
Darllenwch y detholiadau a meddyliwch sut gallai ffermwr deimlo am y pwyntiau a wnaeth Ellis.

  • Pa bwyntiau mae Ellis yn eu gwneud?
  • Sut gallai ffermwr deimlo am y pwyntiau hyn, yn eich barn chi?

Background

Bu’r digwyddiad cyntaf yn Sir Benfro ym mis Mai 1839, pan ddinistriwyd tollborth newydd yn Efailwen. Roedd y porth hwn yn darged amlwg, gan ei fod ar y ffordd yr oedd pobl yn ei defnyddio i gludo calch yn ôl o’r arfordir. Fe wnaeth Ymddiriedolaeth Tollbyrth Hendy-gwyn ailgodi’r porth, dim ond iddo gael ei ddinistrio eto ym mis Mehefin. Ymosodwyd ar ail dollborth newydd yn Llanboidy. Tawelodd yr helynt pan gytunodd yr awdurdodau na fyddai’r tollbyrth yn cael eu hailgodi.

Dechreuodd yr helyntion eto ym 1842 pan gododd Ymddiriedolaeth Hendy-gwyn borth newydd wrth y Mermaid, ar y ffordd galch yn Sanclêr, Sir Gaerfyrddin. Dinistriwyd hwn ym mis Tachwedd, a’r tollbyrth ym Mhwll-trap a Threfechan hefyd. Ailgodwyd y pyrth ond roedd yr holl byrth yn Sanclêr wedi cael eu dinistrio erbyn 12 Rhagfyr. Gwrthododd y llywodraeth anfon milwyr, ac felly galwodd yr ynadon ar fôr-filwyr o Ddoc Penfro a Marchfilwyr Iwmyn Castellmartin. Aeth y terfysgoedd yn eu blaen.

Ym Mai 1843, dinistriwyd y tollbyrth yng Nghaerfyrddin ac, ym mis Mehefin, ceisiodd torf o 2,000 o bobl losgi’r tloty yno yn ulw. Galwyd am y fyddin wrth i’r mudiad fynd yn fwy treisgar. Ym mis Awst, cynhaliwyd terfysg am y tro cyntaf ym Morgannwg yn Llanelli. Ymosodwyd ar y tollbyrth ym Mhontardulais a Llangyfelach. Ym mis Hydref, yn ystod terfysg wrth Borth Hendy ger Abertawe, lladdwyd ceidwad y tolldy. Bu ymosodiadau yng Ngheredigion ac yn Sir Faesyfed hefyd.

Prif sbardun Terfysg Beca oedd codi tollau uchel ar ffermwyr i ddefnyddio’r ffyrdd, ond roedd rhesymau eraill dros eu hanniddigrwydd. Roedd poblogaeth Cymru wedi cynyddu ers dechrau’r 19eg ganrif. Arweiniodd hyn at fwy o gystadleuaeth am dir a swyddi ac ychwanegodd at ddiweithdra a thlodi.

Roedd gan y rhan fwyaf o’r ffermwyr yn yr ardaloedd hyn dyddynnod bach ac roeddent yn tyfu digon i gefnogi eu teuluoedd. Roeddent yn rhentu’u tir oddi wrth landlordiaid cyfoethog. Roedd y landlordiaid eisiau gwneud mwy o arian a dechreuont leihau nifer y tyddynnod bach a oedd ar gael i’w rhentu. Creont ffermydd mwy a oedd ond ar gael i’w rhentu am bris llawer uwch.

Cafodd incwm ffermwyr tenant ei ostwng ymhellach oherwydd roedd yn rhaid iddynt dalu’r degwm. Roedd y degwm yn daliad a wnaed i gefnogi eglwys y plwyf. Roedd y taliadau hyn yn cael ei wneud trwy roi cynnyrch, er enghraifft cnydau neu wlân. Talwyd y degwm i’r Eglwys Anglicanaidd ym mron pob plwyf yng Nghymru unwaith y flwyddyn. Ym 1836, cafodd deddf ei phasio yn newid taliad mewn cynnyrch am daliad ariannol. Y Ficer neu, weithiau, y perchennog tir lleol, oedd yn gosod y taliad hwn. Gan fod 80% o boblogaeth gorllewin Cymru yn Anghydffurfwyr, roedd yn gas ganddynt orfod talu degwm i eglwys nad oeddent yn perthyn iddi.

Rheswm arall dros yr anniddigrwydd oedd Deddf newydd y Tlodion a sefydlwyd yng Nghymru a Lloegr ym 1834. Ymosododd y terfysgwyr ar dlotai, ynghyd â thollbyrth. Golygai’r ddeddf nad oedd cymorth i dlodion (arian) yn cael ei dalu mwyach i bobl dlawd, abl o gorff. Yn hytrach, cawsant eu gorfodi i fyw mewn tloty lle gwnaed yr amodau yn waeth yn fwriadol na’r amodau gwaethaf y tu allan i’r tloty (credai’r llywodraeth mai diogi neu gymeriad drwg oedd yn achosi tlodi).

Roedd cynaeafau gwael ym 1837 ac ym 1838 wedi gwneud prinderau a thlodi yn waeth. Cafwyd cynhaeaf da ym 1842, ond collwyd buddion y cynhaeaf hwn gan fod y flwyddyn honno’n flwyddyn o ddirwasgiad economaidd, felly ni allai gweithwyr diwydiannol fforddio prynu nwyddau amgylcheddol.

Yn olaf, roedd rhaniadau cymdeithasol mawr rhwng y bonedd (perchnogion tir sylweddol) a’r ffermwyr tenant bychain a’r llafurwyr a weithiai ar y tir. Tueddai’r bonedd berthyn i Eglwys Loegr (yr Eglwys Anglicanaidd) a siarad Saesneg. Yn aml, roeddent yn ynadon lleol neu’n swyddogion Deddf y Tlodion, neu’n perthyn i Ymddiriedolaethau Tollbyrth. Nhw oedd yn gosod treth y tlodion, y tollau a’r degwm. Nid oedd fawr ddim yn gyffredin rhyngddynt â’r bobl a oedd yn gweithio’r tir ac, yn aml, roeddent yn gwneud penderfyniadau er eu lles eu hunain yn unig. Roedd gweddill y boblogaeth yn siarad Cymraeg ac yn Anghydffurfwyr.

Yn y pen draw, llwyddodd yr awdurdodau i drechu Terfysg Beca, gan ddefnyddio’r fyddin a holl rym y gyfraith. Cafodd rhai o’r terfysgwyr eu dal a’u dedfrydu i alltudiaeth.

Hefyd, newidiodd amodau cymdeithasol dros y degawd. Roedd gwelliannau i ddeddfau ymddiriedolaethau tollbyrth a dyfodiad y rheilffordd wedi lliniaru llawer o’r problemau trafnidiaeth yng ngorllewin Cymru. Gallai pobl symud yn haws i ddod o hyd i waith a helpodd hyn i leihau’r pwysau am swyddi mewn ardaloedd gwledig. Fe wnaeth rhoi terfyn ar y Deddfau Ŷd ym 1846, ac ymdrechion ym 1847 i wneud Deddf y Tlodion yn llai creulon, helpu hefyd.


Teachers' notes

Yn y wers hon, mae Ffynhonnell 1 yn rhoi tystiolaeth o nodau a phryderon y mudiad. Hefyd, mae’n datgelu’r diffyg cyfleoedd i bobl a oedd am brotestio – bu’n rhaid iddynt guddio pwy oeddent er mwyn osgoi cael eu dal. Mae tystiolaeth o’r dulliau rheoli cymdeithasol a ddefnyddiodd yr awdurdodau i’w gweld yn y ffynhonnell. Mae’r ail ffynhonnell yn dangos beth ddigwyddodd yn ystod ymosodiad ar dollborth – a’r angen am guddio pwy oeddent. Mae ffynhonnell 3 yn datgelu mwy am agwedd yr awdurdodau ac mae’n dangos bod y cosbau i bobl a oedd yn difrodi’r tollbyrth a’r tai yn llym (alltudiaeth). Mae ffynhonnell 4 yn darparu tystiolaeth o gomisiwn yr ymchwiliad i ffyrdd de Cymru a arweiniodd yn y pen draw at newid yn y gyfraith.

Mae’r holl ddogfennau’n cael eu darparu gyda thrawsgrifiadau a thrawsgrifiadau wedi’u symleiddio. Gall myfyrwyr weithio ar y cwestiynau yn unigol neu mewn parau, ac adrodd yn ôl i’r dosbarth.

Efallai bydd athrawon am ddefnyddio’r cartŵn o brotestwyr Beca gyda’r wers i ddechrau, er mwyn cyflwyno’r pwnc gan ddefnyddio’r cwestiynau hyn:

  • Pa fath o ffynhonnell yw hon?
  • Beth allan nhw ei weld yn y llun?
  • A oes ganddo deitl? Beth mae hwn yn ei awgrymu?
  • A allwn ni roi dyddiad i’r ffynhonnell?
  • O ble mae’r ffynhonnell hon yn dod?
  • Pam cafodd hon ei chreu?
  • Beth yw safbwynt y cartwnydd?
  • Pwy mae’r cartwnydd yn ei gefnogi?

Gweithgareddau pellach:

  • Crëwch ddrama/chwarae rôl am roi tystiolaeth i ymchwiliad i achosion Terfysg Beca. Gallwch gymryd cymeriadau o’r ffynonellau a roddwyd.
  • Ysgrifennwch gerdd neu gân brotest am Derfysg Beca

Ffynonellau

Llun y wers: Illustrated London News, ‘The Welsh Rioters’, 11 Chwefror 1843,
Cyfeirnod catalog: ZPER 34/2

Ffynhonnell 1: Llythyr wedi’i chyfeirio at drigolion Sanclêr ac eraill yn Sir Gaerfyrddin, 16 Rhagfyr 1842 Cyfeirnod catalog: HO 45/265 f1

Ffynhonnell 2: Datganiad William Rees, casglwr tollau, 15 Awst 1843 Cyfeirnod catalog: HO 45/454 f.415

Ffynhonnell 3: Rhan o daflen yn Gymraeg, 20 Mehefin 1843 Cyfeirnod catalog: HO 45/454 f.107

Ffynhonnell 4: Detholiad o femorandwm George Ellis yn casglu tystiolaeth am y terfysg, 2 Tachwedd 1843 Cyfeirnod catalog: HO 45/454B f.980

Cysylltiadau â’r cwricwlwm

Cyfnod allweddol 2
Newidiadau mewn agwedd ar hanes cymdeithasol, fel troseddu a chosbau o’r cyfnod Eingl-Sacsonaidd hyd heddiw, neu hamdden ac adloniant yn yr 20fed Ganrif.

Cyfnod allweddol 3
Syniadau, grym gwleidyddol, diwydiant ac ymerodraeth: Prydain, 1745-1901: gwleidyddiaeth plaid, ymestyn yr hawl i bleidleisio a diwygio cymdeithasol

Cyfnod allweddol 3: Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru
‘newidiadau i fywyd bob dydd pobl yn yr ardal yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg; y newidiadau a ddigwyddodd yng Nghymru rhwng 1760 a 1914 ac ymatebion pobl iddynt

Cyfnod allweddol 4
TGAU Hanes Edexcel: Crime and punishment in Britain, c1000–present
TGAU Hanes (Prosiect Hanes Ysgolion) OCR: Developments in Crime and Punishment in Britain 1200-1945
TGAU CBAC: Newidiadau ym Maes Trosedd a Chosb Tua 1500 hyd Heddiw


External links

Prosiect Hanes Digidol Powys
Safle defnyddiol am Derfysg Beca yn Rhaeadr, Sir Faesyfed, gan ddefnyddio deunydd archif.

Papurau Newydd Cymru ar-lein
Archwiliwch Bapurau Newydd Cymru ar-lein i ddarllen yr adroddiadau a wnaed am Derfysg Beca.

BBC Class Clips
Gwyliwch y darn hwn sy’n disgrifio pam roedd angen rhwydwaith ffyrdd gwell ar Brydain.

Back to top

Lesson at a glance

Suitable for: Key stage 3, Key stage 4, Key stage 5

Time period: Empire and Industry 1750-1850

Curriculum topics: Industrial Revolution, Political and social reform, Revolution and Rebellion

Suggested inquiry questions: Beth oedd achosion Terfysgoedd Beca?

Potential activities: Trafodwch y rhesymau dros ac yn erbyn gwrthdystiadau Beca.