Datganiad William Rees, casglwr tollau, 15 Awst 1843 (HO 45/454 f.415)
Trawsgrifiad
Datganiad William Rees, Casglwr Tollau Tollborth Trefechan
Rhwng un a dau o’r gloch fore dydd Sul diwethaf, yr aflonyddwyd arno gan ŵr yn curo ar ei ddrws yn holi’r ffordd i Bont Llanfallteg, a dywedodd wrtho, a chwedyn yn syth clywodd sŵn meirch, a daeth tua phump neu ddeg ar hugain o ddynion wedi cuddwisgo, (mewn ffrogiau gwynion a hancesi lliw ynghlwm wrth eu pennau o dan eu genau) at ei dŷ a’i gymell drwy fygythiadau, gan anelu ar yr un pryd dri Dryll at ei frest, i ildio ei Lyfrau, a chludwyd hwynt ymaith ganddynt. Yr oedd y Llyfrau yn cynnwys ymhlith cyfrifon eraill, enwau sawl un a wrthododd dalu’r doll wrth y Porth dywededig, ni lwyddodd i adnabod yr un ohonynt, ond yr oedd y person agosaf at ffenestr ei dŷy ar gefn ceffyl llwyd.
William Rees
2. Edrychwch ar Ffynhonnell 2. Mae’r casglwr tollau yn disgrifio ymosodiad ar Dollborth Trefechan ym mis Awst 1843.
- Pryd ddigwyddodd yr ymosodiad ar y tollborth?
- Yn eich barn chi, ydych chi’n credu bod hwn yn debygol o fod yn ddarn dibynadwy o dystiolaeth? Rhowch eich rhesymau
- Pam roedd cefnogwyr Rebecca eisiau llyfrau cyfrifon y casglwr tollau?
- Pa bethau sy’n awgrymu bod yr ymosodiad wedi cael ei gynllunio’n dda?
- Sut byddai William Rees wedi teimlo yn ystod yr ymosodiad hwn, yn eich barn chi?