Detholiad o femorandwm George Ellis yn casglu tystiolaeth am y terfysgoedd, 2 Tachwedd 1843, (HO 45/454B f.980)
Trawsgrifiad
Nid yw holl ffyrdd yr un ymddiriedolaeth yn cael eu cadw yn yr un cyflwr da o hyd. Mae hyn yn destun cryn genfigen ymhlith y Ffermwyr ac mae cymhellion personol yn cael eu priodoli’n hawdd i’r Ymddiriedolwyr.
Mae’r angen am archwilio’r cyfrifon refeniw a gwariant yn fanwl yn siarad drosto’i hun – Bydd Cyfrifon pob ymddiriedolaeth yn cyflenwi ei hymchwiliad ei hun.
Mae’r nifer fawr o byrth atal bellach yn gamgymeriad cydnabyddedig, ond deallaf fod yn rhaid ymchwilio i’r graddau y gwnaed hynny. Ar wahân i effaith ormesol yr holl byrth, rhaid imi ychwanegu fy mod wedi clywed am honiadau o ffafriaeth ac anghyfiawnder yn erbyn Ymddiriedolwyr am osod y pyrth fel yr eithrir eu Tenantiaid eu hunain rhag gorfod talu’r Doll.
Os bydd o fewn ymchwiliad y Comisiwn, tybiaf y byddai’n werth chweil ystyried graddfeydd y tollau gogyfer â’r gwahanol bersonau sydd yn defnyddio cerbydau a’r rhai sydd yn defnyddio certi. Cedwir mewn cof ba fath o geffyl a ddefnyddir gan y ffermwr – a sawl un y mae’n rhaid iddo eu defnyddio er gwaetha’r gwelliannau i’r ffyrdd cart dros y mynyddoedd. Hefyd, hoffwn dynnu sylw at faint a phwysau’r certi sy’n rhwymedig i dalu toll fwy yng nghyswllt olwynion culach, ac at y modd y trethir cludiant calch a glo.
Geirfa
imputed – priodoli, cael y bai
accounts of revenue and expenditure – cofnodion incwm a gwariant
furnish – cyflenwi, cynnig, darparu
multiplication – cynyddu
confessed error – camgymeriad sy’n cael ei gydnabod
apprehend – deall, meddwl, gwybod
oppressive – gormesol, beichus, anghyfiawn
partiality – tebygol o ffafrio un grŵp o bobl ar draul grŵp arall
exempt – eithrio, rhyddhau
Commission – Fe’i sefydlwyd yn Hydref 1843 gan yr Ysgrifennydd Gwladol, Syr James Graham, i adrodd ar gyflwr yr Ymddiriedolaethau Tollbyrth yng Nghymru ac archwilio achosion yr helyntion; arweiniodd at newid yn y gyfraith y flwyddyn ganlynol i ddileu rhai o effeithiau gwaethaf yr ymddiriedolaethau.
notwithstanding – er gwaethaf
4. Edrychwch ar Ffynhonnell 4. Roedd George H Ellis wedi cymryd rhan mewn casglu tystiolaeth ar ddechrau ymchwiliad i gyflwr yr Ymddiriedolaethau Tollbyrth yng Nghymru ac achosion yr helyntion.
Darllenwch y detholiadau a meddyliwch sut gallai ffermwr deimlo am y pwyntiau a wnaeth Ellis.
- Pa bwyntiau mae Ellis yn eu gwneud?
- Sut gallai ffermwr deimlo am y pwyntiau hyn, yn eich barn chi?