# Cyflwyno cais am Achrediad Gwasanaeth Archifau

Defnyddiwch ein system ar-lein i gyflwyno eich cais am achrediad, a darganfod
beth sy'n dod nesaf.

## Contents

* [Gwneud cais: y system ar-lein](#heading-gwneud-cais-y-system-ar-lein-37b4349b-9d84-46b3-843a-cd7178a7490f)
* [Terfyn geiriau ar y ffurflen gais](#heading-terfyn-geiriau-ar-y-ffurflen-gais-3f3ef4db-6ab9-44b3-9c48-60463356ece6)
* [Cael cymorth gyda’ch cais](#heading-cael-cymorth-gydach-cais-de56e083-8c39-4ef8-9a1b-10964a21a350)
* [Dogfennau eraill yn ymwneud ag Achrediad Gwasanaethau Archifau](#heading-dogfennau-eraill-yn-ymwneud-ag-achrediad-gwasanaethau-archifau-722863f8-eafb-49e7-86f0-44b55a30eb44)

## Gwneud cais: y system ar-lein

Gwneir cais drwy system ar-lein. Gellir gwneud ceisiadau yn y Gymraeg a'r
Saesneg.

[Gwneud cais am achrediad](https://archiveserviceaccreditation.smapply.io/)

Mae ffurflenni cais am gyfeiriadau [ar gael ar ein tudalen
Canllawiau](https://www.nationalarchives.gov.uk/professional-guidance-and-services/archive-sector/archive-service-accreditation/ymgeisio/canllawiau-achredu-gwasanaethau-archifau/),
i helpu gyda'ch cais.

## Terfyn geiriau ar y ffurflen gais

Mae cyfyngiadau ar nifer y geiriau unigol yn y cwestiynau hynny sy’n gofyn am
ateb testun rhydd. Dylid defnyddio’r rhain fel canllaw i’r uchafswm y gellir ei
ysgrifennu. Sylwer na fydd y system ymgeisio ar-lein yn caniatáu mwy o eiriau
na’r terfyn a nodir. Nid ydynt yn ‘darged’ ac ni chaiff gwasanaethau eu ‘cosbi’
am ateb sy’n llawer byrrach na’r terfyn geiriau. Rhowch yr ateb sy’n
disgrifio’ch gwasanaeth yn ddigonol.

## Cael cymorth gyda’ch cais

Y prif le i ymgeiswyr gael cyngor a chymorth yw'r [adran 'Gwneud Cais am
Achrediad Gwasanaeth
Archifau'](https://www.nationalarchives.gov.uk/professional-guidance-and-services/archive-sector/archive-service-accreditation/ymgeisio/)
ar wefan yr Archifau Gwladol.

Yma bydd ymgeiswyr yn dod o hyd i wybodaeth a dogfennaeth gyfoes. I gael cyngor
penodol am unrhyw agwedd ar y rhaglen, dylech gysylltu â chorff asesu eich
gwlad.

## Dogfennau eraill yn ymwneud ag Achrediad Gwasanaethau Archifau

Y prif bwynt cyngor a chymorth i ymgeiswyr yw'r [adran 'Gwneud Cais am Achrediad
Gwasanaeth
Archifau'](https://www.nationalarchives.gov.uk/professional-guidance-and-services/archive-sector/archive-service-accreditation/ymgeisio/)
ar wefan yr Archifau Gwladol.

Mae’n cynnwys:

* [Safon Achrediad Gwasanaethau Archifau](https://www.nationalarchives.gov.uk/professional-guidance-and-services/archive-sector/archive-service-accreditation/ymgeisio/achrediad-gwasanaethau-archifau-y-safon/)
* [Canllawiau llawn ar ddatblygu cais a llenwi’r ffurflen](https://www.nationalarchives.gov.uk/professional-guidance-and-services/archive-sector/archive-service-accreditation/ymgeisio/canllawiau-achredu-gwasanaethau-archifau/)
* [Meini prawf cymhwyster](https://www.nationalarchives.gov.uk/professional-guidance-and-services/archive-sector/archive-service-accreditation/ymgeisio/meini-prawf-cymhwyster/)
* [Canllawiau graddfeydd](https://www.nationalarchives.gov.uk/professional-guidance-and-services/archive-sector/archive-service-accreditation/ymgeisio/achrediad-gwasanaethau-archifau-graddfeydd/)
* [Cyngor ar gadw Achrediad Gwasanaethau Archifau](https://www.nationalarchives.gov.uk/professional-guidance-and-services/archive-sector/archive-service-accreditation/retaining-accreditation/) (yn Saesneg)
* [Geirfa termau](https://www.nationalarchives.gov.uk/professional-guidance-and-services/archive-sector/archive-service-accreditation/ymgeisio/geirfa-achredu-gwasanaethau-archifau/)

### [Assessment and award of Archive Service Accreditation](https://www.nationalarchives.gov.uk/professional-guidance-and-services/archive-sector/archive-service-accreditation/assessment-and-award/)

![Two people sitting at a desk, sharing a laptop. They are both looking at a yellow document that the person on the right is holding.](https://www.nationalarchives.gov.uk/media/images/UniversityofBristolT_7qlVjEd.2001bf1f.fill-600x400.format-jpeg.jpegquality-60.bgcolor-fff.jpg)

Darganfyddwch beth sy'n digwydd ar ôl i chi gyflwyno'ch cais.

## Help us improve this website

[Complete our short survey (opens in new tab)](https://www.smartsurvey.co.uk/s/DN07V0/?area=footer&source=http%3A%2F%2Fwww.nationalarchives.gov.uk%2Fmd%2Fprofessional-guidance-and-services%2Farchive-sector%2Farchive-service-accreditation%2Fymgeisio%2Fcyflwyno-cais-am-achrediad-gwasanaeth-archifau%2F)

---

[Back to top](#top)