# Canllawiau Achredu Gwasanaethau Archifau

Yn y canllaw hwn cyflwynir y rhaglen ac esbonnir sut y gall gwasanaethau
archifau ddechrau gweithio tuag at gais. Mae’n cyfeirio at ystod o ddogfennau
ategol eraill a nodi ymhle y gellir cael cefnogaeth bellach.

   ![A man in a green shirt is sitting at a table, talking to a woman in a teal shirt, who is standing next to him. Several documents and a laptop are on the table.](https://www.nationalarchives.gov.uk/media/images/UniversityofBristolArchive-.743182f0.fill-1800x720.format-jpeg.jpegquality-60.bgcolor-fff.jpg) 

About this image 

Examining collections at the University of Bristol Archive.

 

## Contents

* [Trosolwg o’r Achrediad Gwasanaethau Archifau](#heading-trosolwg-or-achrediad-gwasanaethau-archifau-1036ddaa-40ed-447d-91ff-9c31eb1781ae)
  + [Rôl rheoli risg](#heading-rol-rheoli-risg-998a2707-c2e1-43d8-ac8c-317b5c7a3b71)
  + [Sut mae’r rhaglen yn gweithio](#heading-sut-maer-rhaglen-yn-gweithio-9b3de53b-bbeb-4549-8d89-e0897ec43333)
    - [Mae’r broses achredu graidd:](#heading-maer-broses-achredu-graidd-4eef7de1-1907-4092-83fc-f397034314f5)
  + [Canlyniad 1: Y gwasanaeth yn cael ei Achredu’n llawn](#heading-canlyniad-1-y-gwasanaeth-yn-cael-ei-achredun-llawn-7b273ce7-8a15-470e-8e87-d085e31a5831)
    - [Canlyniad 2: Dyfarnir achrediad dros dro](#heading-canlyniad-2-dyfarnir-achrediad-dros-dro-8a376ca4-5454-4028-81c1-e4592ced5ece)
    - [Canlyniad 3: Nid yw’r cais yn llwyddiannus](#heading-canlyniad-3-nid-ywr-cais-yn-llwyddiannus-e501cfc3-d096-4c7d-abf6-6535884605a8)
* [Gweithio tuag at wneud cais](#heading-gweithio-tuag-at-wneud-cais-a4a50311-4340-40ce-8898-bd13c4b0b6a3)
  + [Beth yw costau ymgeisio am Achrediad Gwasanaethau Archifau?](#heading-beth-yw-costau-ymgeisio-am-achrediad-gwasanaethau-archifau-4711ab27-d969-4801-9763-22561b987f4f)
  + [Pa mor hir mae’n ei gymryd i gwblhau cais?](#heading-pa-mor-hir-maen-ei-gymryd-i-gwblhau-cais-7d70ac03-8a93-4bd4-8fc5-1385b962e6af)
  + [Pryd i ymgeisio](#heading-pryd-i-ymgeisio-9e4560f8-09a7-4ce2-af6c-59c62f4ec1cc)
* [Gwneud cais](#heading-gwneud-cais-22e4eff4-cd8a-4244-b637-79bfe526f04c)
  + [Dechrau ar eich cais](#heading-dechrau-ar-eich-cais-60017619-e05c-4710-94e2-4a4a933dc88d)
  + [Cryfhau ansawdd eich cais](#heading-cryfhau-ansawdd-eich-cais-1c965a47-707f-4dd7-a121-3ddf316ab8c3)
  + [Gwneud cais fel rhan o wasanaeth mwy o faint neu wasanaeth ar y cyd](#heading-gwneud-cais-fel-rhan-o-wasanaeth-mwy-o-faint-neu-wasanaeth-ar-y-cyd-a39e7807-0209-471c-866c-eafefff16c19)
  + [Darparu ar gyfer newid yn y dyfodol](#heading-darparu-ar-gyfer-newid-yn-y-dyfodol-da3ee64a-3f8c-4ac5-9d34-3b8dc56ca468)

## Trosolwg o’r Achrediad Gwasanaethau Archifau

### Rôl rheoli risg

Wrth i wasanaethau archifau ystyried sut i fynd i’r afael ag Achrediad
Gwasanaethau Archifau, dylent gofio nad yw’r rhaglen yn edrych am
berffeithrwydd. Mae’r Achrediad wedi’i gynllunio i gynnig fframwaith datblygu
realistig yn hytrach na bod yn safon aur. Gellir ei gyflawni gan y mwyafrif o’r
gwasanaethau archifau cymwys.

Fodd bynnag, mae’r Achrediad yn cefnogi darparu gwasanaeth proffesiynol trwy
chwilio am:

* Arferion da yn seiliedig ar safonau cyfredol
* Gwasanaeth rhagweithiol, nid adweithiol
* Gwasanaeth sy’n edrych am ymlaen – yn rhagweld ac yn addasu i newid yn sgil ffactorau allanol a cheisio gyrru newid o fewn y gwasanaeth mewn ymateb i ddatblygiadau megis mathau newydd o gasgliadau, cymunedau newydd yn codi, cyfleoedd newydd, dulliau proffesiynol newydd
* Arferion sy’n gymesur â natur a maint y gwasanaeth

### Sut mae’r rhaglen yn gweithio

Dyfarnir statws Gwasanaeth Archifau Achrededig gan Bwyllgor Achredu Gwasanaethau
Archifau’r Deyrnas Unedig, yn seiliedig ar asesu cyflawniadau’r gwasanaeth
archifau gan y corff asesu cyfrifol. Mae’r Pwyllgor yn ffurfio Paneli rheolaidd
i ystyried ceisiadau a gwneud dyfarniadau.

Mae gwasanaeth archifau yn gwneud cais drwy gorff asesu ei wlad:

* Cymru – [Isadran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd, Llywodraeth Cymru](https://www.gov.wales/archive-service-accreditation)
* Lloegr – [yr Archifau Gwladol](https://www.nationalarchives.gov.uk/archives-sector/our-archives-sector-role/contact-the-team/)
* Gogledd Iwerddon – [Swyddfa Cofnodion Cyhoeddus Gogledd Iwerddon](https://www.proni.gov.uk/)
* yr Alban – [Cofnodion Gwladol yr Alban](https://www.nrscotland.gov.uk/records-and-archives/applying-for-archive-service-accreditation-in-scotland/)

Trefnir i gyrff cenedlaethol gael eu hasesu gan gynrychiolwyr o’r gwledydd
eraill.

Bydd asesydd yn adolygu’r cais. Caiff canran o’r ceisiadau eu dilysu gan
ymweliad gan yr asesydd, mewn rhai achosion gydag adolygydd cymheiriaid (sef
archifydd proffesiynol sydd â phrofiad perthnasol). Ar sail y ffurflen gais,
dogfennau ategol (a chanfyddiadau’r ymweliad dilysu lle bo’n briodol), bydd yr
asesydd yn ysgrifennu adroddiad asesu ac yn gwneud argymhelliad ynghylch a
ddylid dyfarnu Achrediad Gwasanaethau Archifau ai peidio.

Yna ystyrir yr asesiad hwn, ynghyd â’r cais ei hun, gan Banel Achredu
Gwasanaethau Archifau rheolaidd, sy’n gwneud y penderfyniad dyfarnu terfynol.
Hysbysir yr ymgeisydd am y canlyniad yn ysgrifenedig a rhoddir yr adroddiad
asesu llawn iddynt, a hwnnw’n rhoi arweiniad am y rheswm dros y penderfyniad a
dyfyniad byr o farn y Panel am y gwasanaeth. Bydd yr adroddiad asesu yn cynnwys
nifer o gamau gweithredu i’r dyfodol i arwain datblygiad pellach y gwasanaeth.
Mae’r rhain yn gamau ‘Angenrheidiol’ (y mae’n rhaid mynd i’r afael â hwy i
fodloni Achrediad Gwasanaethau Archifau yn y dyfodol) a chamau ‘Gwella’ (meysydd
datblygu i’r gwasanaeth eu gweithredu yn y dyfodol, ond nid ydynt yn orfodol i
gadw Achrediad Gwasanaethau Archifau).

Gall y Panel benderfynu dyfarnu statws Gwasanaeth Archifau Achrededig dros dro
i’r gwasanaethau hynny sydd bron â bodloni holl ofynion y safon. Dyfernir hyn am
gyfnod a bennir gan y Panel, a all fod hyd at 2 flynedd. Yn ystod y statws dros
dro hwn, rhaid i’r gwasanaeth fynd i’r afael â nifer fach o ‘gamau
angenrheidiol’ a nodwyd yn yr asesiad. Cyflwynir tystiolaeth o gynnydd ar y
camau hyn i’r corff asesu perthnasol, sy’n mynd â nhw gerbron y Panel nesaf sydd
ar gael i’w cymeradwyo. Yna gall y gwasanaeth symud i’r dyfarniad llawn.

Fel rheol, caiff Gwasanaeth Archifau Achrededig ei adolygu ar ôl tair blynedd.
Yn ystod y cyfnod adolygu, mae’r gwasanaeth yn llenwi ffurflen adolygu fyrrach,
sy’n gwirio datblygiad y gwasanaeth ac yn adeg i adrodd am newid sylweddol.
Rhaid iddo wedyn gyflwyno ail gais yn llawn ar ôl tair blynedd arall. Yn ystod y
ddau gam hyn, caiff cynnydd yn erbyn y camau a osodir yn yr Achrediad gwreiddiol
ei ddiweddaru.

Os nad yw gwasanaeth yn llwyddo i gyflawni Achrediad Gwasanaethau Archifau,
gallant ailymgeisio pan fyddant yn barod. Er mwyn bod yn llwyddiannus, bydd
angen i’r gwasanaeth ddangos cynnydd ar y ‘camau gweithredu angenrheidiol’ a
nodwyd yn yr asesiad cyntaf, fel rhan o gwblhau cais llawn.

Sylwer: os yw gwasanaeth yn gwneud cais ac yn cael naill ai Achrediad llawn neu
dros dro sydd â ‘chamau angenrheidiol’, rhoddir amserlen i gwblhau’r
gweithredoedd hyn fel rhan o’r adroddiad asesu.

#### Mae’r broses achredu graidd:

1. Y gwasanaeth yn gwneud yn siŵr ei fod yn gymwys ac yn cysylltu â’r corff asesu i gael cyngor pryd i ymgeisio
2. Y gwasanaeth yn gwirio’r graddfa ac yn gweithio tuag at y cais
3. Y gwasanaeth yn cyflwyno cais llawn
4. Asesydd yn adolygu’r cais, yn gwneud argymhelliad i’r Panel Achredu nesaf
5. Y Panel Achredu yn gwneud penderfyniad terfynol ar y dyfarniad

Yna mae tri chanlyniad posibl:

### Canlyniad 1: Y gwasanaeth yn cael ei Achredu’n llawn

Os yw'r gwasanaeth wedi'i achredu'n llawn, mae angen y prosesau ychwanegol hyn:

1. Y gwasanaeth yn cyflwyno cais adolygu cryno ar ôl 3 blynedd
2. Y gwasanaeth yn cyflwyno cais llawn i gael eu hail Achredu ar ôl 6 blynedd

#### Canlyniad 2: Dyfarnir achrediad dros dro

Os dyfernir achrediad dros dro i'r gwasanaeth, mae angen y prosesau ychwanegol
hyn:

1. Y gwasanaeth yn mynd i’r afael â’r ‘camau Angenrheidiol’ penodol yn yr adroddiad asesu
2. Y gwasanaeth yn rhoi tystiolaeth o gynnydd i’r Panel Achredu

Yna mae'r broses yn dychwelyd i bwynt y broses achredu: 5. Y Panel Achredu yn
gwneud penderfyniad terfynol ar y dyfarniad

#### Canlyniad 3: Nid yw’r cais yn llwyddiannus

Os nad yw'r cais am achrediad yn llwyddiannus, mae angen y prosesau ychwanegol
hyn:

1. Y gwasanaeth yn mynd i’r afael â’r ‘camau Angenrheidiol’ yn yr adroddiad asesu
2. Y gwasanaeth yn gwneud cais llawn am Achrediad

Yna mae'r broses yn dychwelyd i bwynt y broses achredu: 3. Y gwasanaeth yn
cyflwyno cais llawn

## Gweithio tuag at wneud cais

### Beth yw costau ymgeisio am Achrediad Gwasanaethau Archifau?

Nid oes tâl i wneud cais nac i dderbyn Achrediad Gwasanaethau Archifau. I’r rhan
fwyaf o wasanaethau, y prif ‘gost’ yw’r amser staff sydd ei angen i gasglu data,
gwneud y gwaith dadansoddi, datblygu cynlluniau, polisïau a gweithdrefnau.

Gall hyn ymddangos yn frawychus i wasanaethau llai o faint. Fodd bynnag, mae’r
broses ymgeisio wedi’i chynllunio i fod o fewn gallu’r holl wasanaethau i’w
chyflawni. Mae nifer o wasanaethau bychain bellach wedi cyflawni Achrediad. Mynd
ati i gynllunio’r gwaith dros gyfnod o amser yw’r ffordd fwyaf effeithiol o
ddefnyddio Achrediad i ddatblygu eich gwasanaeth, ac fel arfer dyma’r ffordd
fwyaf realistig o sicrhau’r adnodd angenrheidiol.

### Pa mor hir mae’n ei gymryd i gwblhau cais?

Mae hyn yn dibynnu’n llwyr ar ba mor barod yw eich gwasanaeth archifau. Nid oes
amserlen benodol ofynnol gan y rhaglen.

Mae gan rai gwasanaethau lawer o’r cynlluniau, polisïau a gweithdrefnau ar waith
eisoes a dim ond cwestiwn o adolygu a thynhau gweithgarwch cyfredol ydyw. Mewn
sefyllfa o’r fath gallai gymryd chwe mis i dynnu popeth at ei gilydd ar yr un
pryd â chynnal gwasanaeth arferol.

I wasanaethau eraill, mae Achrediad Gwasanaethau Archifau yn cynnig fframwaith
gwella i gael adolygiad cyflawn ac ailwampio’r gwasanaeth, a hynny’n cymryd mwy
o amser i’w weithredu.

Bydd capasiti personél y gwasanaeth yn effeithio ar yr amserlen. Efallai y bydd
rhai gwasanaethau yn ei gwneud hi’n flaenoriaeth i un aelod o staff ei arwain a
chael cefnogaeth gan staff eraill. I wasanaethau eraill, yn enwedig rhai llai,
efallai y bydd y cyfrifoldeb ar un person yng nghanol nifer o alwadau eraill ar
eu hamser. Yn yr achos olaf, mae’n bosibl mai’r syniad gorau yw rhannu’r cais yn
adrannau bychain a delio â phob adran pan fo amser yn caniatáu.

Hyd yn oed pan fo gweithiwr proffesiynol unigol yn gyfrifol am arwain y cais,
mae bob amser yn ddefnyddiol sicrhau bod pobl eraill sy’n gysylltiedig â’r
gwasanaeth archifau yn ymwybodol o’r cais, yn gallu cyfrannu at eu meysydd
arbenigedd, ac efallai’n glust i wrando a thrafod unrhyw faterion dyrys. Mae hyn
yn helpu i ymgorffori Achrediad Gwasanaethau Archifau o fewn y gwasanaeth, yn
ogystal â rhoi cefnogaeth ymarferol i’r unigolyn.

### Pryd i ymgeisio

Gall nifer o ffactorau ddylanwadu ar eich penderfyniad ynghylch pryd i ymgeisio,
yn ogystal â pharatoi’n effeithiol ar gyfer y cais. Efallai yr hoffech wneud
cais i dderbyn eich adborth asesu fel rhan o adolygiad ehangach. Os yw eich
sefydliad hefyd yn gwneud Achrediad Amgueddfa, efallai y byddwch yn dewis
cydlynu neu blethu amserlenni’r ceisiadau. Gan fod y cais yn gofyn am ystadegau
am y flwyddyn ariannol flaenorol, gallai amseriad eich blwyddyn ariannol gael
effaith.

Mae’r broses ymgeisio yn rhoi cyfleoedd i drafod newidiadau i’ch gwasanaeth
archifau yn y dyfodol. Fodd bynnag, nid yw’n ddoeth gwneud cais os ydych wrthi’n
gwneud newidiadau mawr. Er enghraifft, os gwyddoch fod newid llywodraethu ar
ddod ond nad ydych eto yn gwybod natur a strwythur y llywodraethu newydd, doeth
fyddai peidio â gwneud cais nes y gallwch fod yn siŵr.

Yn yr un modd, os ydych chi’n gweithio ar adeilad newydd, byddai’n ddoeth gwneud
eich cais unwaith y byddwch yn y lle newydd a chwithau’n gwybod sut mae’n
perfformio i’ch gwasanaeth archifau.

Fodd bynnag, os oes gennych gynlluniau tymor hwy ar gyfer newid mawr, mae croeso
i chi ymgeisio, er mwyn sefydlu gwaelodlin gyfredol i’ch gwasanaeth. Os
digwyddith y newid mawr o fewn cyfnod 6-blynedd y dyfarniad, efallai y gofynnir
i chi gwblhau ail achrediad yn gynharach.

Os nad ydych yn siŵr a fydd y newid yn effeithio ar pryd y dylech wneud eich
cais, cysylltwch â’ch corff asesu i gael cyngor.

## Gwneud cais

### Dechrau ar eich cais

Dylech ddechrau drwy gadarnhau eich bod yn gymwys ar gyfer y cynllun. Y cam
nesaf yw asesu maint a graddfa eich gwasanaeth.

Darllenwch ein canllawiau i gael gwybod mwy am ein chwe maen prawf cymhwysedd.

[Gwiriwch eich cymhwysedd](https://www.nationalarchives.gov.uk/professional-guidance-and-services/archive-sector/archive-service-accreditation/ymgeisio/meini-prawf-cymhwyster/)

Aseswch raddfa eich gwasanaeth, gan ddefnyddio ein canllawiau a'n cyfrifiannell
graddadwyedd.

[Nodwch raddfa eich gwasanaeth](https://www.nationalarchives.gov.uk/professional-guidance-and-services/archive-sector/archive-service-accreditation/ymgeisio/achrediad-gwasanaethau-archifau-graddfeydd/)

Isod mae ein dogfen ganllawiau lawn ar wneud cais am Achrediad Gwasanaeth
Archifau:

* #### [Canllawiau Achredu Gwasanaethau Archifau (DOCX, 639kB)](/wagtail-documents/245/archive-service-accreditation-guidance-welsh-2026.docx)

  File type
  :   DOCX

  File size
  :   639kB

  Extent
  :   105 pages

  Mae'r canllaw hwn yn cynnwys cyngor helaeth ar ffactorau lluosog o'r broses
  ymgeisio am Achrediad Gwasanaethau Archifau. Mae'n cynnwys canllawiau ar gyfer y
  gofyniad cyfan, canllawiau ar gyfer cwestiynau penodol lle bo'n briodol, cyngor
  ar ba wybodaeth a dogfennaeth ategol sydd eu hangen, a chwestiynau i chi eu
  hystyried wrth lunio ymatebion, a mwy. Mae wedi'i rannu'n dair adran: iechyd
  sefydliadol, casgliadau, a mynediad ac ymgysylltu.

Isod ceir fersiynau at ddibenion cyfeirio yn unig o'r ffurflen gais a'r ffurflen
adolygu statws achrededig. Rhaid cyflwyno pob cais drwy'r ffurflen gais ar-lein
ar y dudalen we ar gyfer [cyflwyno cais am Achrediad Gwasanaeth
Archifau](https://www.nationalarchives.gov.uk/professional-guidance-and-services/archive-sector/archive-service-accreditation/ymgeisio/cyflwyno-cais-am-achrediad-gwasanaeth-archifau/)

* #### [Ffurflen gais ar gyfer Achrediad y Gwasanaeth Archifau (DOCX, 348kB)](/wagtail-documents/242/archive-service-accreditation-application-form-welsh-2026.docx)

  File type
  :   DOCX

  File size
  :   348kB

  Extent
  :   47 pages

  Mae'r ddogfen gyfeirio hon yn cynnwys yr holl gwestiynau sydd i'w cael ar y
  ffurflen gais ar-lein, gyda lle wedi'i ddarparu ar gyfer ymatebion. Bwriedir
  iddi gael ei defnyddio fel cymorth i helpu i ddrafftio'ch ymatebion all-lein, er
  mwyn galluogi proses ymgeisio hawdd trwy'r ffurflen ar-lein.
* #### [Ffurflen Gais Adolygu’r Gwasanaeth Archifau Achrededig (DOCX, 417kB)](/wagtail-documents/244/review-of-accredited-services-welsh-reference-form.docx)

  File type
  :   DOCX

  File size
  :   417kB

  Extent
  :   13 pages

  Mae'r ddogfen gyfeirio hon yn cynnwys yr holl gwestiynau a geir yn y cais
  ar-lein i adolygu statws achrededig, gyda lle wedi'i ddarparu ar gyfer
  ymatebion. Bwriedir iddi gael ei defnyddio fel cymorth i helpu i ddrafftio'ch
  ymatebion all-lein, er mwyn galluogi proses ymgeisio hawdd trwy'r ffurflen
  ar-lein.

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais, cysylltwch â chorff asesu eich
gwlad. Mae rhai cyrff asesu yn cyfyngu ar nifer y ceisiadau y byddant yn eu
derbyn mewn blwyddyn, felly efallai y bydd angen i chi archebu adeg gwneud cais
ymlaen llaw. Hyd yn oed os nad ydych chi’n bwriadu gwneud cais yn y dyfodol
agos, gallwch ddechrau’r broses o ystyried pa mor bell y mae’n rhaid i’r
gwasanaeth fynd cyn gallu cael ei achredu, a gall eich corff asesu gynnig
cefnogaeth.

Ewch ati i gynnal asesiad cychwynnol o’ch gwasanaeth yn erbyn gofynion y Safon
gan ystyried maint a graddfa eich gwasanaeth. Mae’n annhebygol y byddwch yn
bodloni’r holl ofynion ar unwaith a dylech lunio cynllun datblygu, a bydd hwnnw
yn eich galluogi i fwrw ati i fodloni gofynion y Safon. Gall gweithredu’r
cynllun hwn gymryd nifer o fisoedd neu hirach, ond bydd y paratoi hwn yn
hanfodol i’ch galluogi i wneud cais llwyddiannus ac i wneud y gorau o weithio
tuag at Achrediad Gwasanaeth Archifau.

Mae’n bwysig cadw hyn yn gymesur ac i beidio â gorweithio ymateb. Pan fo
gwasanaeth archifau yn dechrau heb y mwyafrif o’r polisïau a chynllunio sy’n
ofynnol i’r Achrediad, gall hyn fod yn gyfle i sefydlu gwaelodlin, a gellir ei
gyflawni yn aml trwy ddwy neu dair dogfen sylfaenol. Er enghraifft, gall polisi
rheoli archifau trosfwaol, blaengynllun a chasgliad o weithdrefnau ar gyfer
gwaith archifau fynd i’r afael â’r mwyafrif o’r gofynion ar yr un pryd.

### Cryfhau ansawdd eich cais

Nid yw pob cais am Achrediad yn llwyddiannus ar eu hymgais gyntaf. Dyma rai
pwyntiau allweddol ar gyfer sicrhau cais o ansawdd da:

* Gwnewch yn siŵr fod risgiau mawr yn cael eu mesur a’u rheoli ar adeg y cais e.e. os yw colli capasiti storio ar fin digwydd, disgrifiwch eich datrysiad. Os nad ydych yn gallu esbonio sut y byddwch chi’n rheoli risg sylweddol efallai y byddai’n syniad oedi eich cais.
* Amserwch eich cais i osgoi ymgeisio yn ystod newid mawr.
* Gwnewch yn siŵr bod y gwasanaeth yn bodloni neu’n amlwg yn gweithio tuag at safonau proffesiynol ym mhob maes.
  + Efallai y bydd rhai agweddau ar y gwasanaeth nad yw’n bosibl bodloni safonau ar hyn o bryd, e.e. lle ar gyfer storio casgliadau, dogfennaeth casgliadau. Nid yw hyn yn awgrymu’n awtomatig y bydd y cais yn aflwyddiannus.
  + Fodd bynnag, mewn sefyllfaoedd o’r fath mae’n rhaid i chi ddangos y rheoli risg sydd gennych i ddelio â’r mater a sut rydych chi’n ceisio gweithredu safonau proffesiynol.
  + Mewn rhai sefyllfaoedd, gall y dull hwn fod yn ateb rhannol (e.e. camau cadwraeth da yn lliniaru’r problemau a achosir gan adeilad gwael) neu ateb hirdymor (e.e. delio ag ôl-groniadau catalogio neu uwchraddio’r catalog presennol).
* Dylai gweithgareddau’r gwasanaeth archifau fod ar raddfa neu amrywiaeth sy’n gymesur â’i natur, ei faint a’i genhadaeth. Mae’r Achrediad yn asesu pob cais yn ôl ei rinweddau ei hun. Bwriedir i’r graddfeydd fod yn ganllaw eang i’ch helpu i ddeall yr hyn sy’n ‘gymesur’.

Gall cais fod yn aflwyddiannus yn syml oherwydd ei fod wedi’i wneud yn rhy
gynnar. Bydd cymryd mwy o amser yn caniatáu i weithgareddau a gweithdrefnau
ymsefydlu neu i sefyllfaoedd sadio a dod yn fwy eglur. Fodd bynnag, mewn rhai
achosion nid yw’r gwasanaeth yn y bôn yn bodloni rhai o ofynion y safon ac felly
ni fydd yn llwyddiannus.

Anogir yn gryf i’r holl wasanaethau gysylltu â’u corff asesu cyn iddynt ddechrau
cais i drafod a oes yna faterion sylweddol a fyddai’n bendant yn atal cais
llwyddiannus ac i drafod yn gyffredinol eu parodrwydd ar gyfer Achrediad
Gwasanaethau Archifau. Sylwer nad yw cyrff asesu yn gallu adolygu ceisiadau
drafft unigol.

### Gwneud cais fel rhan o wasanaeth mwy o faint neu wasanaeth ar y cyd

Mae Achrediad Gwasanaethau Archifau yn addas ar gyfer gwasanaethau archifau sy’n
rhan o wasanaethau mwy megis llyfrgell, amgueddfa neu gasgliad arbennig neu
unigryw a nodedig mewn prifysgol. Mewn sefyllfaoedd o’r fath, rhaid iddi fod yn
glir sut y defnyddir polisi, cynllunio a gweithdrefnau i reoli’r casgliad
archifau hwn hyd yn oed os ydyw yn rhan o uned reoli fwy.

Pan gaiff casgliadau archif eu rheoli ar y cyd â chasgliadau sydd ag anghenion
uniongyrchol tebyg, er enghraifft Casgliadau Arbennig sydd hefyd â llyfrau prin,
cydnabyddir nad oes fawr o fudd gwahanu elfennau archifol o’r dull cyfannol sy’n
bodloni’r safonau proffesiynol perthnasol ar gyfer archifau.

Yn yr achos hwn, dylech gyflwyno dogfennau’r uned gyfan heblaw pan fo elfen
archif benodol. Hyd yn oed os nad yw hyn yn wir, cydnabyddir y gall fod yn anodd
gwahanu rhai agweddau o’r gwasanaeth archifau o’r sefydliad ehangach (e.e.
cyllidebau, rhai dogfennau polisi). Os yw hyn yn wir, rhowch fanylion y
gwasanaeth ehangach a nodwch yn eich cais nad yw’n bosibl gwahanu’r elfen
archifau.

### Darparu ar gyfer newid yn y dyfodol

Dylai eich cais nid yn unig ddisgrifio’r gwasanaeth presennol ond hefyd edrych
ymlaen at ei ddatblygiad yn y dyfodol. Gellir ymgorffori newidiadau yn y dyfodol
mewn sawl ffordd. Dylai blaengynllunio fynegi’r newidiadau y disgwylir iddynt
ddigwydd i’r gwasanaeth yn ogystal â sbarduno newid yn y gwasanaeth.

Yn ail, mae’r ffurflen gais yn rhoi cyfleoedd i nodi newidiadau yn y dyfodol ar
draws pob agwedd ar y gwasanaeth. Rhaid i’r gwasanaeth nodi newidiadau sylweddol
yn y dyfodol, sut y gallai’r rhain effeithio ar y gwasanaeth a sut mae’r
gwasanaeth yn mynd i ddelio ag effaith unrhyw newid. Wrth ddisgrifio newidiadau
yn y dyfodol dylech ddangos eich bod wedi cynnal asesiad risg trylwyr a bod eich
sefydliad yn delio â newid mewn ffordd a reolir.

Mae ‘newid sylweddol yn y dyfodol’ yn unrhyw newid a fydd yn effeithio’n
sylfaenol ar sut mae’r gwasanaeth yn gweithredu. Er enghraifft, ni fydd penodi
person newydd i swydd bresennol yn berthnasol ond byddai colli un neu fwy o
swyddi cyflogedig yn sylweddol i bawb ond y gwasanaethau mwyaf. Gall newidiadau
sylweddol gynnwys meysydd megis colli lle/gofod neu gynllunio ar gyfer adeilad
newydd, symud i fath newydd o lywodraethu, toriadau yn nifer y staff, newid o
fwy na 5% yng nghyllideb y gwasanaeth, neu bartneriaethau newydd i ddarparu
gwasanaethau.

Os nad ydych yn siŵr a yw newid yn berthnasol ac a ddylid ei gynnwys yn eich
cais, cysylltwch â’ch corff asesu i gael cyngor.

## Help us improve this website

[Complete our short survey (opens in new tab)](https://www.smartsurvey.co.uk/s/DN07V0/?area=footer&source=http%3A%2F%2Fwww.nationalarchives.gov.uk%2Fmd%2Fprofessional-guidance-and-services%2Farchive-sector%2Farchive-service-accreditation%2Fymgeisio%2Fcanllawiau-achredu-gwasanaethau-archifau%2F)

---

[Back to top](#top)