# Achrediad Gwasanaethau Archifau: Graddfeydd

Mae gwasanaethau archif ar gael mewn sawl maint a math o lywodraethu. Poriwch
ddangosyddion graddadwyedd a fydd yn eich helpu i ddeall beth a ddisgwylir gan
wasanaethau fel eich un chi.

   ![View down a repository corridor, showing floor-to-ceiling shelving that is full of cardboard archive boxes.](https://www.nationalarchives.gov.uk/media/images/MuseumofEnglishRuralLi.2e16d0ba.fill-1800x720.format-jpeg.jpegquality-60.bgcolor-fff.jpg) 

About this image 

Storage facilities at the Museum of English Rural Life.

 

## Contents

* [Graddfeydd Safon yr Achrediad Gwasanaethau Archifau](#heading-graddfeydd-safon-yr-achrediad-gwasanaethau-archifau-0d73c5d5-b1d2-40a2-aea9-55adfd7ee380)
  + [Gwasanaethau Archifau Llywodraeth Leol](#heading-gwasanaethau-archifau-llywodraeth-leol-74764084-72f3-4099-b260-bbd93abd1776)
    - [Math un](#heading-math-un-73f88d84-71b9-4932-8c3c-5173190ce33e)
    - [Math dau](#heading-math-dau-900886eb-38a8-40fb-bb85-c6acf67d3cd2)
  + [Gwasanaethau archifau eraill yn y sector cyhoeddus](#heading-gwasanaethau-archifau-eraill-yn-y-sector-cyhoeddus-890b5ddc-b259-4f2b-8cbf-02e606858cd5)
    - [Math un](#heading-math-un-152d66d1-0763-4085-b9a7-306ae080413f)
    - [Math dau](#heading-math-dau-ec2da756-a1d5-4dc2-9c02-b1a5a4eeeb87)
  + [Gwasanaethau archifau sector preifat a thrydydd sector](#heading-gwasanaethau-archifau-sector-preifat-a-thrydydd-sector-85e8c478-0784-440b-90c2-3b14a91092d6)
    - [Math un](#heading-math-un-c9e35b21-37a7-4e76-88f2-980c91403566)
    - [Math dau](#heading-math-dau-d3feb351-b7c0-43c9-b9db-18130b9af93d)
    - [Math tri](#heading-math-tri-c768f48a-b3b5-4329-8b7c-f0aeb8c15501)
* [Dangosyddion Cyfreithiol](#heading-dangosyddion-cyfreithiol-d136b3c5-9c29-4d4c-8394-e5bf5e4dd9f1)
  + [Cyrff Cofnodion ac Archifau Cenedlaethol](#heading-cyrff-cofnodion-ac-archifau-cenedlaethol-72bb3535-7082-4bbb-b558-c4c13da3c3c2)
  + [Mannau adneuo yng Nghymru a Lloegr](#heading-mannau-adneuo-yng-nghymru-a-lloegr-b9bf8d35-fbbd-4720-a2c9-130b38d52631)

## Graddfeydd Safon yr Achrediad Gwasanaethau Archifau

Mae gwasanaethau archifau yn amrywio o ran maint a’r modd y cânt eu
llywodraethu. Mae’r dangosyddion isod yn dangos nodweddion eang sail
gyfreithiol, maint casgliadau, rôl gyhoeddus ac arlwy’r gwahanol fathau o
wasanaethau archifau sy’n gweithredu o fewn y DU, er mwyn rhoi tryloywder i’r
broses asesu.

Defnyddir graddfeydd i helpu gwasanaethau archifau i ddeall yr hyn a ddisgwylir
gan wasanaethau o’u math a’u maint hwy, a chyfeirir atynt ledled y ‘Canllawiau
wrth ddatblygu a llenwi cais’ sydd yn ddogfen ar wahân, lle roddir arweiniad yn
ôl graddfa. Bydd yr aseswyr hefyd yn defnyddio dangosyddion y graddfeydd fel
arweiniad yn ystod y broses asesu fel un ffordd o ddeall rôl y gwasanaeth
archifau.

Nid oes angen i wasanaethau archifau fodloni pob dangosydd ar y raddfa, ac mae’n
bosib y gwelant eu bod yn eistedd rhwng dwy stôl. Dylai gwasanaethau archifau
ddefnyddio’r dangosyddion priodol o fewn y ddogfen hon i benderfynu pa raddfa
sy’n cyd-fynd orau â’u gweithrediad hwy. Nid yw’r holl ofynion wedi’u
gwahaniaethu oherwydd bydd meysydd sy’n gyffredin i bob gwasanaeth archifau.
Mae’r gyllideb gweithredu wedi’i gadael allan yn benodol fel dangosydd.

Os ydych yn cael trafferth nodi graddfa eich gwasanaeth, mae cyfrifiannell
wedi’i darparu i roi arweiniad ychwanegol i chi.

### Gwasanaethau Archifau Llywodraeth Leol

#### Math un

Statws Lleoliad Adneuon
:   Heb ei benodi

Maint Daliadau Analog yr Archifau
:   Hyd at 100 m ciwbig

Maint Daliadau Digidol yr Archifau
:   Hyd at 20 GB

Cyfansoddiad
:   Rhan o gorff sy’n ddarostyngedig i Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth (2000), neu Ddeddf
    Rhyddid Gwybodaeth (yr Alban), neu gorff sydd wedi’i gontractio’n allanol i
    ddarparu gwasanaethau archifau ar ran un neu ragor o gyrff o’r fath.

Gweithlu
:   Rheolwr/archifydd proffesiynol sy’n derbyn tâl, staff ategol

Ar agor
:   Mynediad rheolaidd ar y safle ac yn datblygu presenoldeb ar lein

Yr arlwy i ddefnyddwyr
:   Ystafell ddarllen. Allgymorth i gymunedau ehangach/addysg. Canolbwyntio ar
    ddefnyddio archifau ar gyfer dysgu ac ymgysylltu gan sefydliadau eraill.

Gofynion deddfwriaethol ar gyfer mynediad i’r cyhoedd
:   Deddf Llywodraeth Leol 1962 a 1972, Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, deddfwriaeth
    Diogelu Data, Rheolau Dogfennau Maenoraidd, Rheolau Dogfennau’r Degwm, Mesur
    Cofnodion a Chofrestri Plwyfol, a60 Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994, Deddf
    Llywodraeth Leol (yr Alban) 1994, Deddf Cofnodion Cyhoeddus (yr Alban) 2011,
    Deddf Rhyddid Gwybodaeth (yr Alban) 2002, Rheoliadau Ailddefnyddio Gwybodaeth y
    Sector Cyhoeddus 2015.

Enghraifft o wasanaeth
:   Llyfrgell Astudiaethau Lleol ac archifau bwrdeistref

#### Math dau

Statws Lleoliad Adneuon
:   Yn debygol o gael ei benodi

Maint Daliadau Analog yr Archifau
:   Dros 100 m ciwbig

Maint Daliadau Digidol yr Archifau
:   Dros 20 GB

Cyfansoddiad
:   Rhan o gorff sy’n ddarostyngedig i Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth (2000), neu Ddeddf
    Rhyddid Gwybodaeth (yr Alban), neu gorff sydd wedi’i gontractio’n allanol i
    ddarparu gwasanaethau archifau ar ran un neu ragor o gyrff o’r fath.

Gweithlu
:   Archifwyr proffesiynol sy’n derbyn tâl, a staff proffesiynol perthnasol sy’n
    cefnogi dysgu/allgymorth/technoleg/go fal a chadwraeth casgliadau.

Ar agor
:   Mynediad rheolaidd ar y safle a chymorth ymchwil ar-lein cryf

Yr arlwy i ddefnyddwyr
:   Ystafell ddarllen. Datblygu cynulleidfa ac allgymorth i gymunedau
    ehangach/addysg. Datblygu dysgu ac ymgysylltu mewnol, ochr yn ochr â chydweithio
    ag eraill.

Gofynion deddfwriaethol ar gyfer mynediad i’r cyhoedd
:   Deddf Llywodraeth Leol 1962 a 1972, Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, deddfwriaeth
    Diogelu Data, Rheolau Dogfennau Maenoraidd, Rheolau Dogfennau’r Degwm, Mesur
    Cofnodion a Chofrestri Plwyfol, a60 Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994, Deddf
    Llywodraeth Leol (yr Alban) 1994, Deddf Cofnodion Cyhoeddus (yr Alban) 2011,
    Deddf Rhyddid Gwybodaeth (yr Alban) 2002, Deddf Cofnodion Cyhoeddus (Gogledd
    Iwerddon) 1923, Rheoliadau Ailddefnyddio Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus 2015.

Enghraifft o wasanaeth
:   Gwasanaeth Dinesig neu ledled y Sir

### Gwasanaethau archifau eraill yn y sector cyhoeddus

#### Math un

Statws Lleoliad Adneuon
:   Heb ei benodi yn ôl pob tebyg

Cyfansoddiad
:   Rhan o gorff sy’n ddarostyngedig i Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth (2000), Deddf
    Rhyddid Gwybodaeth (yr Alban), neu gorff a gontractiwyd yn allanol i ddarparu
    gwasanaethau archifau ar ran un neu ragor o gyrff o’r fath.

    Yng nghyd-destun prifysgol, gallai fod yn rhan o strwythur rheoli cofnodion y
    brifysgol neu wasanaeth llyfrgell sy’n cadw casgliadau arbennig yn hytrach na
    gweithrediad sy’n cyfuno cofnodion mewnol ac allanol.

Maint Daliadau Analog yr Archifau
:   Hyd at 100 m ciwbig

Maint Daliadau Digidol yr Archifau
:   Hyd at 20 GB

Gweithlu
:   Dan reolaeth staff cymwys\*, gyda mynediad at arbenigedd archifol proffesiynol
    sy’n briodol i faint a natur y corff a’r casgliad. Yn aml, yng nghyd-destun
    gweithrediadau rheoli cofnodion neu lyfrgelloedd ehangach.

Ar agor
:   Mynediad rheolaidd ar y safle

Yr arlwy i ddefnyddwyr
:   Yn canolbwyntio’n bennaf ar ymchwilwyr arbenigol/mewnol Gallai mynediad i’r
    cyhoedd fod drwy apwyntiad neu drwy oriau agor cyfyngedig.

Gofynion deddfwriaethol ar gyfer mynediad i’r cyhoedd
:   Deddf Rhyddid Gwybodaeth, Deddf Rhyddid Gwybodaeth (yr Alban).

    Yn dibynnu ar y daliadau ond gallai rhai casgliadau hefyd gael eu llywodraethu
    gan y Ddeddf Diogelu Data, Rheolau Maenoraidd a/neu’r Degwm, Rheoliadau
    Gwybodaeth Amgylcheddol.

    Mae archifau mewn Llyfrgelloedd Prifysgolion a chyrff diffiniedig eraill y
    Sector Cyhoeddus yn ddarostyngedig i Reoliadau Ailddefnyddio Gwybodaeth y Sector
    Cyhoeddus 2015.

Enghraifft o’r math o wasanaeth
:   Archifau Ysbyty a gwasanaeth rheoli cofnodion. Archifau Prifysgol gyda mynediad
    at arbenigedd perthnasol.

#### Math dau

Statws Lleoliad Adneuon
:   Gallai fod wedi’i benodi os yn berthnasol

Cyfansoddiad
:   Rhan o gorff sy’n ddarostyngedig i Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth (2000), Deddf
    Rhyddid Gwybodaeth (yr Alban), neu gorff a gontractiwyd yn allanol i ddarparu
    gwasanaethau archifau ar ran un neu ragor o gyrff o’r fath.

    Yng nghyd-destun prifysgol, gallai ddarparu mynediad at archifau prifysgol a
    chasgliadau arbennig.

    Yn cynnwys cyrff cenedlaethol a gyfansoddwyd drwy Ddeddf Seneddol (gweler hefyd
    y nodyn isod ynghylch archifau gwladol) a chyrff eraill sydd â chylch gwaith
    cenedlaethol yn eu cyfansoddiad neu’u disgrifiad o ddaliadau.

Maint Daliadau Analog yr Archifau
:   100 m ciwbig neu fwy

Maint Daliadau Digidol yr Archifau
:   Dros 20 GB

Gweithlu
:   Archifydd/rheolwr proffesiynol sy’n derbyn tâl a staff proffesiynol perthnasol
    sy’n cefnogi’r dysgu/allgymorth/technoleg/gofal casgliadau a chadwraeth a
    gynigir.

Ar agor
:   Mynediad rheolaidd ar y safle a chymorth ymchwilio ar-lein cadarn

Yr arlwy i ddefnyddwyr
:   Ffocws cryf ar ymchwilwyr arbenigol/mewnol. Ymrwymiad sefydliadol i fynediad
    rheolaidd i’r cyhoedd a disgwyliad o hynny.

    Arlwy eang i ddefnyddwyr gan gynnwys datblygu cynulleidfaoedd yn ogystal â
    mynediad rheolaidd ar y safle a datblygu presenoldeb ar-lein.

Gofynion deddfwriaethol ar gyfer mynediad i’r cyhoedd
:   Deddf Rhyddid Gwybodaeth, Deddf Rhyddid Gwybodaeth (yr Alban).

    Yn dibynnu ar y daliadau ond gallai rhai casgliadau hefyd gael eu llywodraethu
    gan y Ddeddf Diogelu Data, Rheolau Maenoraidd a/neu’r Degwm, Rheoliadau
    Gwybodaeth Amgylcheddol.

    Mae archifau mewn Llyfrgelloedd Prifysgolion a chyrff diffiniedig eraill y
    Sector Cyhoeddus yn ddarostyngedig i Reoliadau Ailddefnyddio Gwybodaeth y Sector
    Cyhoeddus 2015.

Enghraifft o’r math o wasanaeth
:   Archifau a Chasgliadau Arbenigol Prifysgolion, Archifau Amgueddfa Mawr

### Gwasanaethau archifau sector preifat a thrydydd sector

#### Math un

Statws Lleoliad Adneuo
:   Heb ei benodi yn ôl pob tebyg.

Cyfansoddiad
:   Amrywiol

Gweithlu
:   Yn nodweddiadol, gwirfoddolwr neu aelod staff heb ei hyfforddi’n llawn yn
    nisgyblaethau Rheoli Archifau a Chofnodion, gyda chyngor proffesiynol priodol o
    ffynhonnell allanol.

Ar agor
:   Gellir trefnu mynediad i’r safle neu mae’n rheolaidd ond gydag oriau agor
    cyfyngedig.

Maint Daliadau Analog yr Archifau
:   O dan 50 m ciwbig. Cyfeiriwch at y meini prawf cymhwyster i sicrhau bod eich
    gwasanaeth yn gymwys.

Maint Daliadau Digidol yr Archifau
:   Llai na 10 GB

Yr arlwy i ddefnyddwyr
:   Yn canolbwyntio’n bennaf ar ddefnyddwyr busnes cymunedol/mewnol. Gallai mynediad
    i’r cyhoedd fod drwy apwyntiad neu drwy oriau agor cyfyngedig neu drwy fynediad
    cyfryngol ar-lein.

Gofynion deddfwriaethol ar gyfer mynediad i’r cyhoedd\*
:   Yn dibynnu ar y daliadau ond gallai rhai casgliadau hefyd gael eu llywodraethu
    gan ddeddfwriaeth Diogelu Data, Rheolau Maenoraidd a/neu’r Degwm.

Enghraifft o’r math o wasanaeth
:   Busnes bach; amgueddfa fach annibynnol

#### Math dau

Statws Lleoliad Adneuo
:   Heb ei benodi yn ôl pob tebyg

Cyfansoddiad
:   Amrywiol

Gweithlu
:   Archifydd proffesiynol a/neu reolwr cofnodion

Ar agor
:   Mynediad rheolaidd i’r safle

Maint Daliadau Analog yr Archifau
:   Rhwng 50 a 100 m ciwbig

Maint Daliadau Digidol yr Archifau
:   Rhwng 10 ac 20 GB

Yr arlwy i ddefnyddwyr
:   Ffocws arwyddocaol ar ddefnyddwyr busnes mewnol.

    Gallai mynediad i’r cyhoedd fod drwy apwyntiad neu drwy oriau agor cyfyngedig,
    neu drwy fynediad cyfryngol ar-lein.

Gofynion deddfwriaethol ar gyfer mynediad i’r cyhoedd\*
:   Yn dibynnu ar y daliadau ond gallai rhai casgliadau hefyd gael eu llywodraethu
    gan ddeddfwriaeth Diogelu Data, Rheolau Maenoraidd a/neu’r Degwm.

Enghraifft o’r math o wasanaeth
:   Busnes canolig; Corff arbenigol

#### Math tri

Statws Lleoliad Adneuo
:   Gallai fod wedi’i benodi os yn berthnasol

Cyfansoddiad
:   Amrywiol

Gweithlu
:   Archifydd(wyr) proffesiynol sy’n derbyn tâl, a staff proffesiynol perthnasol
    sy’n cefnogi’r arlwy o ran dysgu/allgymorth/technoleg/gofal casgliadau a
    chadwraeth.

Ar agor
:   Mynediad rheolaidd i’r safle a/neu bresenoldeb cryf ar lein

Maint Daliadau Analog yr Archifau
:   100 m ciwbig neu fwy

Maint Daliadau Digidol yr Archifau
:   Dros 20 GB

Yr arlwy i ddefnyddwyr
:   Ymrwymiad gan y sefydliad i hyrwyddo mynediad i’r cyhoedd at gasgliadau.

    Datblygu cynulleidfa ac allgymorth i grwpiau amryfal o ddefnyddwyr a/neu
    ddatblygu arlwy ar lein.

Gofynion deddfwriaethol ar gyfer mynediad i’r cyhoedd\*
:   Yn dibynnu ar y daliadau ond gallai rhai casgliadau hefyd gael eu llywodraethu
    gan ddeddfwriaeth Diogelu Data, Rheolau Maenoraidd a/neu’r Degwm.

Enghraifft o’r math o wasanaeth
:   Busnes mawr; Elusen; Amgueddfa/cymdeithas ddysgedig.

\*Braslun yn unig. Bydd deddfwriaeth arall yn effeithio ar fynediad at
ddosbarthiadau penodol o gofnod.

## Dangosyddion Cyfreithiol

### Cyrff Cofnodion ac Archifau Cenedlaethol

Gwasanaethau archifau a gaiff eu rhedeg gan gyrff a gyfansoddwyd drwy Ddeddf
Seneddol. Byddant yn cynnig cyfleusterau i ymwelwyr sy’n briodol i gorff
cenedlaethol, sy’n dal ac yn datblygu casgliad sy’n arwyddocaol yn genedlaethol
ac yn rhyngwladol ac yn darparu cyfleoedd ardderchog i ymgysylltu drwy ddysgu,
ymchwil a chyfranogaeth.

### Mannau adneuo yng Nghymru a Lloegr

Mae cofnodion cyhoeddus, yn unol â diffiniad Deddf Cofnodion Cyhoeddus 1958 a
diwygiadau dilynol i atodlenni cofnodion o’r fath sydd ynghlwm, yn destun
rheolaeth statudol a chânt eu rhoi dan oruchwyliaeth y Ceidwad Cofnodion
Cyhoeddus (Prif Weithredwr yr Archifau Gwladol), a’r Ysgrifennydd Gwladol dros
Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon.

Cedwir llawer o’r cofnodion hyn mewn mannau adneuo lleol, y mae’n rhaid i’r
Ceidwad eu cymeradwyo. Mae gofynion penodol ar gyfer mannau adneuo sydd, fodd
bynnag, wedi’u cyfyngu i raddau helaeth i ddarparu ar gyfer eu rheoli, eu cadw’n
ddiogel a mynediad, ac nid ydynt yn cyfateb i safon.

Mae disgwyl i sefydliadau sy’n gweithredu mannau adneuo ofalu am y cofnodion
cyhoeddus sy’n eu gofal a sicrhau eu bod ar gael yn unol â Deddf Cofnodion
Cyhoeddus 1958 a 1967, Deddf Diogelu Data 1998 a Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.

Ar y cyfan, mae disgwyl i Fannau Adneuo awdurdodau lleol fodloni safonau sy’n
ddisgwyliedig gan archifau awdurdod lleol math 2; Mannau Adneuo eraill y raddfa
y mae eu gwasanaeth archifau yn cyd-fynd â hi yn gyffredinol.

Mae canllawiau manwl pellach ar ofal a rheoli cofnodion cyhoeddus mewn storfa,
benthyciad, rhodd, dinistrio, trosglwyddo neu gadw gweinyddol ar gael y[n adran
Mannau
Adneuo](https://www.nationalarchives.gov.uk/archives-sector/legislation/approved-places-of-deposit)
gwefan yr Archifau Gwladol, sydd hefyd yn rhestru'r lleoedd cymeradwy o'r fath.

## Help us improve this website

[Complete our short survey (opens in new tab)](https://www.smartsurvey.co.uk/s/DN07V0/?area=footer&source=http%3A%2F%2Fwww.nationalarchives.gov.uk%2Fmd%2Fprofessional-guidance-and-services%2Farchive-sector%2Farchive-service-accreditation%2Fymgeisio%2Fachrediad-gwasanaethau-archifau-graddfeydd%2F)

---

[Back to top](#top)