Ffynhonnell 3a

Rhan o daflen yn Gymraeg, 20 Mehefin 1843 (HO 45/454 f.107)

Trawsgrifiad Cymraeg

AT

REBECCA

A’I MHERCHED.

 

GYMRY,

 

.. A YDYCH CHWI YN MEDDWL Y GALLAF GEFNOGI, NEU UNO YN, EICH GWEITHREDOEDD AFREOLUS? Yr wyf yn dywedyd wrthych, NA WNAF. A pheth sydd fwy, er fy mod wedi ymladd, yn ymladd, ac yn bwriadu etto i ymladd eich brwydrau, hyd oni enniller perffaith gyfiawnder, ac adffurfiad gwladwriaethol, i chwi ac i’ch plant, yr wyf, a byddaf yn wastadol, y blaenaf i gadw heddwch i’r Frenines a’i deiliaid, ac i rwystro pob afreolaeth a therfysg. Y mae digon wedi ei wneyd yn barod, i ddangos i’r Llywodraeth, y fath anfoddlonrwydd cyffredinol sydd yn eich plith, o herwydd gormes. Y maent wedi danfon milwyr i’r wlad i gadw heddwch: YR YDWYF, GAN HYNY YN DYMUNO YN DAER ARNOCH BEIDIO CYFARFOD A’CH GILYDD NOS FERCHER. Yr ydwyf wedi ysgrifenu am y Milwyr, i ddyfod yma i’ch rhwystro i gyflawni unrhyw ddrygioni, os byddwch mor annoeth ag ymgasglu ynghyd. Paham y rhwystrwch fi i ymladd eich brwydrau yn yr unig ffordd y gallwn lwyddo; a thrwy eich trais a’ch afresymoldeb, yr hyn yn sicr ni thyccia, fy nhroi o fod yn gyfaill, i fod yn wrthwynebwr i chwi? Y mae eich ymddygiad yn blentyn-aidd ac yn ddireswm, ac yn annhebyg iawn i ddynion a chanddynt ddybenion pwysig i’w cyrheadd. Pa ham y dangoswch ffolineb pan y mae doethined yn ofynedig? Y gosp am dynu ty Turnpike i lawr yw ALLTUDIAD DROS FYWYD. Pa ddaioni a ellwch ei gael wrth redeg i’r fath berygl, pan y gallech gyrhaedd pob peth a ddylech fwynhau, drwy lwybr hedd-ychlon ac esmwyth, ac heb fyned i unrhyw enbydrwydd. Nis gallaf gyfrif hyn ond i’ch an-wybodaeth, drwy yr hyn yr ydych yn analluog, i gadw o fewn ei gylch priodol, y grym anwrth-wynebol sydd yn eich

meddiant. Y ganfed ran o’ch nerth chwi, wedi ei gyfleu yn briodol, a wnelai fwy drosoch, a hyny yn ddiberygl, nag a wnelai maint eich grym fil o weithiau, wrth ei wastraffu mewn gorchwylion afresymol, fel y gwnaethoch yn ddiweddar. Cymmerwch eich arwain genyf. Gwnewch yr hyn yr wyf yn ei erchi i chwi, a rhaid y BYDDWCH YN ORCH-FYGWYR YN Y DIWEDD. Eled pob un o honoch i’w artref ei hun, yn heddychol ac yn dawel, nos Fercher; a bore dydd lau, bydded i bob plwyf ddewis dau Gennadwr, i ddyfod ataf fi, (fel y gwnaeth y plwyfi yn Hwndrwd Elfed,) i’m gwneyd yn hysbys o’r gorthrymderau sydd yn eich gwasgu, ac yna dilynwch y cynghor a roddaf iddynt. Os gwnewch, heddwch a llwyddiant a adferir i chwi; ac os na wnewch, gadawaf chwi i fwynhau canlyniadau eich an-wybodaeth a’ch ynfydrwydd.

 

EDW. CR. LLOYD HALL.

Geirfa

adffurfiad – newid, gwelliant

 

dybenion – amcanion

 

alltudiad – alltudiaeth, cael eu hanfon o Brydain

 

gyrhaedd – cyflawni

 

enbydrwydd – perygl

 

anwrthwynebol – amhosibl ei wrthwynebu, diamheuol

 

Gennadwr – cynrychiolydd

 

Ynfydrwydd – ffolineb, twpdra

 

Edward Crompton Lloyd Hall – uchel siryf Ceredigion, a wnaeth hefyd ymgyrchu o blaid pleidlais gudd (nid oedd pleidleisio mewn etholiad yn gudd ar y pryd)

 

« Return to Terfysg Beca (Cymraeg/Welsh)

3. Edrychwch ar Ffynhonnell 3. Mae Edward Crompton Lloyd Hall, uchel siryf Ceredigion, yn cynnig cyngor i Rebecca a’i merched ym 1843.

  • Pam mae Hall yn dweud wrth Rebecca a’i merched am beidio â chyfarfod nos Fercher?
  • Sut mae Hall yn cynghori’r Cymry i weithredu er mwyn cael pobl i wrando arnynt?
  • Sut mae’r daflen yn ceisio perswadio pobl i wrando? (Rhowch sylwadau ar: faint y testun; ansoddeiriau ac enwau cadarn; arddull ysgrifennu Hall.)
  • Pa wybodaeth mae’r ffynhonnell hon yn ei rhoi am agwedd yr awdurdodau at Rebecca a’i merched?
  • Pam argraffodd Hall y daflen hon yn Gymraeg a Saesneg, yn eich barn chi?