Ffynhonnell 1

Llythyr Rebecca, 16 Rhagfyr 1842 (HO 45/265 f1)

Trawsgrifiad

Rhybudd

 

Hoffwn eich rhybuddio, yn enwedig y rhai a dyngodd lw i fod yn gwnstabliaid er mwyn dal Becca a’i phlant. Gallaf eich sicrhau y bydd yn rhy anodd i Bowlin a’i gwmni orffen y gwaith a ddechreuasant – sef cadw’r pyrth yn Llanengel a [? fach] yn sefyll. Cymerwch yn awr yr ychydig linellau hyn fel gwybodaeth ichi wylio eich hunain, chwychwi a gawsoch unrhyw gysylltiad â Bowlin, Y Meistri M.C Lics, Mr Thomas Blue Boar, bydd eich holl eiddo yn cael ei losgi mewn un noson os na ufuddheir i’r rhybudd hwn. Anfonwch ymaith y crwydriaid hynny yr ydych yn rhoi ffafriaeth iddynt. Yr wyf bob amser yn dymuno bod yn onest yn fy holl ymwneud â phobl – ai rhesymol yw eu bod yn trethu gymaint ar y wlad, ac yn dwyn o bocedi ffermwyr a gweision tlawd? Bydd yr holl byrth a saif ar y ffyrdd bychain hyn yn cael eu dinistrio. Yr wyf yn fodlon i’r pyrth ar Ffordd y Frenhines aros. Mae’n gywilydd i ni Gymry fod â meibion Henegust yn ein rheoli. Onid ydych yn cofio’r cyllyll hirion a ddyfeisiwyd gan Henegust i ladd ein cyndadau? Gallwch fod yn sicr o un peth, bydd yr un dynged yn dod ichwi os na ildiwch pan ddof atoch, a bydd hynny yn o fuan. Yr wyf yn awr yn eich gorchymyn i adael y lle cyn imi ddod, oherwydd yr wyf yn benderfynol o gael fy ffordd. O ran y cwnstabl a’r plismyn, nid yw Becca a’i phlant yn talu mwy o sylw iddynt nag i’r ceiliogod rhedyn sy’n hedfan yn yr haf. Mae rhywrai eraill sydd wedi eu nodi gan Becca. Ni chant eu henwi yn awr, ond, os nad ydynt yn ufuddhau i’r rhybudd hwn, bydd yn galw i’w gweld yn fuan iawn.

 

Yn ffyddlon hyd at farwolaeth
gyda’r sir
Becca a’i phlant
Trwn [?]
Rhag, 16eg 1842

Geirfa

Y rhai a dyngodd lw i fod yn gwnstabliaid – dynion lleol a dyngodd lw o flaen ynadon i helpu i orfodi’r gyfraith, yr oeddent yn cael eu galw’n gwnstabliaid gwirfoddol

 

Bowlin – Thomas Bullin, y prif gasglwr tollau ac adeiladwr tollbyrth yn yr ardal, Sais oedd yn cael ei gasáu yng Nghymru

Llanengel – Llanfihangel

 

crwydriaid (vagabonds) – pobl heb gartref parhaol sy’n symud o le i le, yn aml yn chwilio am fwyd neu waith; gall gael ei ddefnyddio’n air sarhaus hefyd

 

Henegust – Hengist, arweinydd y Sacsoniaid ym Mhrydain ar ddechrau’r 5ed ganrif AD

 

cyllyll hirion – digwyddodd brad y cyllyll hirion yn ystod y rhyfeloedd rhwng y Sacsoniaid a’r Prydeinwyr cynnar. Yn ystod cynhadledd heddwch wedi’i threfnu gan Hengist, tynnodd y Sacsoniaid gyllyll hirion o’u hesgidiau llaes a lladd y boneddigion Prydeinig.

 

y plismyn – George Martin, arolygydd o Heddlu’r Metropolitan yn Llundain, a’i ddau heddwas (nid oedd gan orllewin Cymru heddlu)

Trawsgrifiad wedi’i symleiddio

Rhybudd

 

Hoffwn eich rhybuddio, yn enwedig y rhai a dyngodd lw i fod yn gwnstabliaid er mwyn dal Beca a’i phlant. Gallaf eich sicrhau y bydd hi’n rhy anodd i Bullin a’i gwmni orffen y gwaith a ddechreuasant – sef cadw’r pyrth yn Llanengel a [? fach] yn sefyll. Yn awr, cymerwch yr ychydig linellau hyn fel gwybodaeth ichi wylio eich hunain, chi a gawsoch unrhyw gysylltiad â Bullin, Y Meistri M.C Lics, Mr Thomas Blue Boar. Bydd eich holl eiddo yn cael ei losgi mewn un noson os na fyddant yn ufuddhau i’r rhybudd hwn. Anfonwch i ffwrdd y crwydriaid hynny rydych chi’n rhoi ffafriaeth iddynt. Rwyf bob amser yn dymuno bod yn onest yn fy holl ymwneud â phobl. A yw’n rhesymol eu bod yn trethu gymaint ar y wlad, gan ddwyn o bocedi ffermwyr a gweision tlawd yn unig? Bydd yr holl byrth ar y ffyrdd bychain hyn yn cael eu dinistrio. Rwy’n fodlon i’r pyrth ar Ffordd y Frenhines aros. Mae’n gywilydd i ni Gymry fod meibion Hengist yn ein rheoli. Onid ydych yn cofio’r cyllyll hirion a ddyfeisiodd Hengist i ladd ein cyndadau? Gallwch fod yn sicr o un peth, byddwch chi’n wynebu’r un dynged os na ildiwch pan fyddaf i’n ymweld â chi, a bydd hynny cyn bo hir. Nawr, rwy’n eich gorchymyn i adael y lle cyn imi ddod, oherwydd rwyf yn benderfynol o gael fy ffordd. O ran y cwnstabl a’r plismyn, nid yw Beca a’i phlant yn talu mwy o sylw iddynt nag i’r ceiliogod rhedyn sy’n hedfan yn yr haf. Mae Beca wedi sylwi ar eraill hefyd. Ni fyddant yn cael eu henwi nawr, ond, os na fyddant yn ufuddhau i’r rhybudd hwn, bydd yn galw i’w gweld cyn hir iawn.

 

Yn ffyddlon hyd at farwolaeth
gyda’r sir
Beca a’i phlant
Trwn [?]
Rhag 16eg, 1842

 

« Return to Terfysg Beca (Cymraeg/Welsh)

1. Edrychwch ar Ffynhonnell 1. Cyfeiriwyd y llythyr hwn at bobl oedd yn byw yn Sanclêr ac eraill yn Sir Gaerfyrddin ym 1842.

  • Pam mae awdur y llythyr yn defnyddio’r llofnod ‘Becca a’r plant’ (‘Becca & children’) yn hytrach na rhoi ei enw ei hun?
  • Pam mae’r cwnstabliaid arbennig (special constables – ‘those which has sworn to be connstable”) yn cael rhybudd i dalu sylw i’r llythyr hwn?
  • Pam mae’r llythyr yn gwrthwynebu ‘Bowlin and company’?
  • Beth yw agwedd yr awdur at yr heddlu?
  • Sut ydyn ni’n gwybod nad oedd y person a ysgrifennodd y llythyr hwn wedi cael addysg dda?
  • Sut mae iaith y llythyr yn gwneud i’r llythyr ymddangos yn fygythiol?