Beth a ddigwyddodd yn ystod
Digwyddodd helyntion Beca yn ardaloedd gwledig gorllewin Cymru, gan gynnwys Sir Benfro, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin, rhwng 1839-43. Yr oeddent yn gyfres o brotestiadau gan ffermwyr-denantiaid yn erbyn talu tollau a godwyd am ddefnyddio'r ffyrdd. Ymddiriedolaethau'r Tollbyrth neu grwpiau o ddynion busnes oedd piau y rhan fwyaf o'r ffyrdd mawr. Y dynion hyn oedd yn penderfynu pa dâl i'w godi a faint o dollbyrth i'w hadeiladu.
Yn ystod yr helyntion, ymosodau dynion mewn gwisg merched ar y tollbyrth. Galwent eu hunain yn "Ferched Beca". Mae hyn yn fwy tebygol o fod yn seiliedig ar hanes yn y Beibl lle mae Beca yn dweud bod angen "etifeddu pyrth eu gelynion" (Genesis XXIV, pennod 60). Yr oedd pobl bryd hynny yn adnabod eu Beibl yn dda.
Yr oedd tollau yn gost aruthrol i ffermwyr bach, a ddefnyddiai'r ffyrdd i fynd â'u cnydau â'u hanifeiliaid i'r farchnad, a hefyd i nôl calch. Arferid defnyddio calch i wella ansawdd y pridd fel y gallai ffermwyr dyfu cnydau gwell. Gallai gostio gymaint â phum swllt (25c) mewn tollau i gludo trol o galch wyth milltir. Nid oedd pobl gorllewin Cymru eisiau talu am defnyddio eu ffyrdd.
Tasks
1. Yr oedd y llythyr hwn wedi'i gyfeirio at drigolion Sanclêr ac eraill yn Sir Gaerfyrddin ym 1842.
i. Pam y mae awdur y llythyr yn ei lofnodi "Beca a'i Phlant" yn lle rhoi ei enw ei hun?
ii. Pam y caiff y cwnstabliaid rhanamser ("y rhai a dyngodd lw i fod yn gwnstabliaid") eu rhybuddio i gymryd sylw o'r llythyr hwn?
iii Pam y mae'r llythyr yn gwrthwynebu "Bowlin & Company"?
iv. Beth yw agwedd yr awdur tuag at yr heddlu?
v. Sut y gallwn ni ddweud nad oedd y person a ysgrifennodd y llythyr hwn wedi derbyn addysg dda?
vi. Sut y mae iaith y llythyr yn gwneud iddo ymddangos yn fygythiol?
2. Mae'r casglwr tollau yn disgrifio ymosodiad ar Dollborth Trefychan yn Awst 1843.
i. Pryd y digwyddodd yr ymosodiad ar y dollborth?
ii. A ydych yn credu bod hwn yn debygol o fod yn dystiolaeth ddibynadwy? Rhowch eich rhesymau.
iii Pam tybiwch bod cefnogwyr Beca eisiau cael gafael ar lyfrau cyfrifon ceidwad y tolldy?
iv Pa bethau sy'n awgrymu bod yr ymosodiad wedi'i drefnu'n dda?
v. Sut y tybiwch y byddai William Rees wedi teimlo yn ystod yr ymosodiad hwn?
3. Edward Crompton Lloyd Hall, Uchel Siryf Ceredigion, yn cynnig cyngor i Beca a'i merched ym 1843.
i. Pam y mae Hall yn dweud wrth Beca a'i merched am beidio â chyfarfod â'i gilydd nos Fercher?
ii. Pa gyngor y mae Hall yn ei roi i'r Cymry i gael pobl i wrando arnynt?
iii Sut y mae'r hysbyslen yn ceisio perswadio pobl i wrando? (Soniwch am: maint y testun, enwau ac ansoddeiriol cryf; arddull ysgrifennu Hall.)
iv Pa wybodaeth y mae'r Ffynhonnell hon yn ei roi am agwedd yr awdurdodau tuag at Beca a'i merched?
v. Pam wnaeth Hall sicrhau bod yr hysbyslen yn cael ei hargraffu yn y Gymraeg a'r Saesneg?
4. Yr oedd George H. Ellis yn un o'r rhai a fu'n casglu tystiolaeth ar ddechrau'r ymchwiliad i gyflwr Ymddiriedolaethau'r Tollbyrth yng Nghymru, ac achosion yr helynt. Darllenwch y darnau isod. Sut y byddai ffermwyr yn teimlo am y pwyntiau a wneir gan Ellis
i. Pa bwynt y mae Ellis yn ei wneud?
ii. Ymateb y ffermwyr?









