Hysbyslen, Mehefin 1843 (HO 45/454 f.107)
You can drag the image around to explore it.
Adysgrif Cymraeg
AT
REBECCA
A’I MHERCHED.
GYMRY,
.. A YDYCH CHWI YN MEDDWL Y GALLAF GEFNOGI, NEU UNO YN, EICH GWEITHREDOEDD AFREOLUS? Yr wyf yn dywedyd wrthych, NA WNAF. A pheth sydd fwy, er fy mod wedi ymladd, yn ymladd, ac yn bwriadu etto i ymladd eich brwydrau, hyd oni enniller perffaith gyfiawnder, ac adffurfiad gwladwriaethol, i chwi ac i’ch plant, yr wyf, a byddaf yn wastadol, y blaenaf i gadw heddwch i’r Frenines a’i deiliaid, ac i rwystro pob afreolaeth a therfysg. Y mae digon wedi ei wneyd yn barod, i ddangos i’r Llywodraeth, y fath anfoddlonrwydd cyffredinol sydd yn eich plith, o herwydd gormes. Y meant wedi danfon milwyr i’r wlad i gadw heddwch: YR YDWYF, GAN HYNY YN DYMUNO YN DAER ARNOCH BEIDIO CYFARFOD A’CH GILYDD NOS FERCHER. Yr ydwyf wedi ysgrifenu am y Milwyr, i ddyfod yma i’ch rhwystro i gyflawni unrhyw ddrygioni, os byddwch mor annoeth ag ymgasglu ynghyd. Paham y rhwystrwch fi i ymladd eich brwydrau yn yr unig ffoordd y gallwn lwyddo; a thrwy eich trais a’ch afredymoldeb, yr hyn yn sier ni thyccia, fy nhroi o fod yn gyfaill, i fod yn wrthwynebwr i chwi? Y mae eich ymddygiad yn blentynaidd ac yn ddireswm, ac yn annhebyg iawn i ddynion a chanddynt ddybenion pwysig i’w Cyrheadd. Pa ham y dangoswch ffolineb pan y mae doethined yn ofynedig? Y gosp am dynu ty Turnpike i lawr yw ALLTUDIAD DROS FYWYD. Pa ddaioni a ellwch ei gael wrth redeg i’r fath berygl, pan y gallech gyrhaedd pob peth a ddylech fwynhau, drwy lwybr heddychlon ac esmwyth, ac heb fyned i unrhyw enbydrwydd. Nis gallaf gyfrif hyn ond i’ch anwybodaeth, drwy yr hyn yr ydych yn nalluog, i gadw o fewn ei gylch priodol, y grym anwrthwynebol sydd yn eich meddiant. Y ganfed ran o’ch nerth chwi, wedi ei gyffeu yn briodol, a wnelai fwy drosoch, a hyny yn ddiberygl, nag a wnelai maint eich grym fil o weithiau, wrth ei wastraffu mewn gorchwylion afresymol, fel y gwnaethoch yn ddiweddar. Cymmerwch eich arwain genyf. Gwnewch yr hyn yr wyf yn ei erchi i chwi, a rhaid y BYDDWCH YN ORCHFYGWYR YN Y DIWEDD. Eled pob un o honoch i’w artref ei hun, yn heddychol ac yn dawel, now Fercher; a bore dydd lau, bydded i bob plwyf ddewis dau Gennadwr, i ddyfod ataf fi, (fel y gwnaeth y plwyfi yn Hwndrwd Elfed,) i’m gwneyd yn hysbys o’r gorthrymderau sydd yn eich gwasgu, ac yna dilynwch y cynghor a roddnf iddynt. Os gwnewch, heddwch a Ilwyddiant a adferir i chwi; ac os na wnewch, gadawaf chwi i fwynhau canlyniadau eich anwybodaeth a’ch ynfydrwydd.
EDW. CR. LLOYD HALL.
Adysgrif Syml
AT BECA
A’I MERCHED.
GYMRY,
......
A ydych yn meddwl y gallwn gymeradwyo neu ymuno â’ch cynulliad terfysglyd? Yr wyf
yn dywedyd wrthych NA. Ac ymhellach at hynny, er fy mod wedi ymladd, yn ymladd o
hyd, ac yn parhau i ymladd eich brwydrau, hyd nes y gallaf sicrhau cyfiawnder perffaith
a gwelliannau gwleidyddol i chwi a’ch plant, yr wyf a byddaf o hyd y cyntaf i gadw
heddwch y Frenhines, gan atal unrhyw helyntion neu derfysg. Gwnaed digon eisoes i
ddarbwyllo’r Llywodraeth ynghylch yr anfodlonrwydd mawr ac eang y mae eich cwynion
wedi’i greu yn eich plith. Y maent wedi anfon milwyr i gadw’r heddwch. Erfyniaf arnoch
felly i beidio â chyfarfod eich gilydd ar nos Fercher. Yr wyf wedi anfon am y milwyr i
ddod yma ac i’ch rhwystro rhag gwneud drygioni os mynnwch wneud hynny. Pam y
rhwystrwch fi rhag ymladd eich brwydrau yn yr unig ffordd a fydd yn llwyddo; a thrwy
eich trais a’ch hurtrwydd, a wna ddim daioni o gwbl, yn fy nhroi o fod yn gyfaill i fod yn
elyn? Mae eich ymddygiad yn blentynnaidd ac yn wrthun, ac yn annheilwng o ddynion
sy’n cyrchu at nodau clodwiw. Paham y dangoswch ffolineb pan fo angen doethineb? Y
gosb am chwalu Tolldy yw ALLTUDIAETH AM OES. Pa ddaioni a ddaw o fentro’r fath
dynged, pan y gallwch gael popeth y dylech fod yn ei gael, yn heddychlon a thawel, heb
wynebu unrhyw berygl? Ni allaf ond priodoli hyn i’ch anwybodaeth, sy’n eich atal rhag
gallu tywys y grym mawr ac anorchfygol yr ydych yn meddu arno yn y cyfeiriad iawn.
Bydd canfed rhan o’ch cryfder, o’i gymhwyso’n gywir, yn gwneud mwy drosoch, a heb
unrhyw berygl, na’r mil gwaith yr ydych wedi gwastraffu eich hegni yn yr hurtrwydd
diweddar. Gwrandewch arnaf. Gwnewch yr hyn a ofynnaf, a byddwch chwi yn
fuddugoliaethus yn y diwedd. Ewch bob un ohonoch i’ch cartrefi eich hunain ar nos
Ferched, yn heddychlon a thawel. Ar fore dydd Iau gadewch i bob Plwyf ddewis dau
Ddirprwy i ddod ataf (fel y mae’r Plwyfi yng Nghantref Elfed Uchaf wedi’i wneud), i’m
hysbysu ynghylch eich cwynion, ac yna i ddilyn yn llwyr y cyngor a roddaf iddynt. Os
gwnewch hynny, bydd heddwch a llewyrch yn dychwelyd atoch yn ddiamheuaeth. Os
na wnewch, gadawaf chwi i fwynhau ffrwyth eich ffolineb a’ch anwybodaeth.
EDW. CR. LLOYD HALL.
Geirfa
cymeradwyo cefnogi